Yn yr ail o gyfres perfformiadau 'The Shape of Things to Come' Volcano (sy'n agor yr wythnos hon gyda All We Knead gan Sean Keung), mae menyw yn penderfynu ffarwelio â bywyd cyffredin, a byw yn hytrach fel dafad.

Y syniad y tu ôl i’r gyfres hon o gomisiynau yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig. Rydym yn arbennig o awyddus i annog perfformwyr sy’n ymgysylltu â’r dyfodol, pwnc a dull perfformio sy’n ymwneud â’r hyn sydd i ddod neu “ddim eto”. Perfformir y darnau mewn mannau amrywiol yn lleoliad Volcano yn Stryd Fawr Abertawe.

Mae The Beauty of Being Herd (6 - 8 Gorffennaf) gan Ruth Berkoff yn sioe ddoniol, chwareus a thyner gyda chomedi a chân, am fenyw sy'n ysu i ffitio i mewn ac sy'n ymdrechu'n rhy galed i gael ei hoffi. Mae'n sôn am daith anarferol y mae hi'n mynd arni er mwyn dod o hyd i'w chryfder ei hun a'i llais ei hun. Ond a fydd hi'n gadael yn y pen draw?

Mae Ruth Berkoff yn actor ac awdur gweithgar ac amryddawn o Ogledd Lloegr, sy'n angerddol am berthnasau a chwerthin. Mae hi wrth ei bodd yn actio a dysgodd yn ddiweddar, mewn ffilmiau modern, mai ychydig dros 20% o'r geiriau sy’n cael eu rhoi i ddynion a roddir i fenywod 42-65 oed. Mae hi'n 42 oed eleni ac yn bwriadu siarad ei geiriau ei hun cyn iddynt gael eu tynnu o'i cheg.

Pan gafodd Ruth waedlif ar ei hymennydd chwe blynedd yn ôl, allai hi ddim dod o hyd i straeon gan eraill oedd wedi cael profiad tebyg, felly ysgrifennodd ei straeon ei hun. Mae miloedd o bobl wedi darllen ei blog. Mae hi'n ysgrifennu ac yn perfformio i roi dewrder a hyder i eraill ac i'w helpu i deimlo'n llai unig.

Yr artistiaid eraill i ymddangos yn y gyfres, sy'n rhedeg trwy gydol mis Gorffennaf a dechrau Awst, yw Sara Hartel, Rebecca Batala, Aasiya Shah a Marianne Tuckman.