Mae’n bleser gan Leisiau Eraill Aberteifi gyhoeddi’r don nesaf o artistiaid ar gyfer yr ŵyl eleni, a gynhelir o 31ain Hydref i 2il Tachwedd. Bydd Charlotte Day Wilson, Fionn Regan a Victor Ray yn ymuno â'r lein-yp yn Eglwys y Santes Fair, ochr yn ochr â Bill Ryder-Jones, Fabiana Palladino, a Georgia Ruth. Bydd y perfformiadau agos-atoch hyn yn cael eu ffrydio'n fyw ledled y byd trwy sianel YouTube Other Voices a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, fel y gall pawb brofi'r hud.
EGLWYS Y SANTES FAIR
Charlotte Day Wilson | Victor Ray | Fionn Regan
Bill Ryder-Jones | Fabiana Palladino | Georgia Ruth
- Mwy o actau’r Eglwys i’w cyhoeddi cyn hir!
Cantores-gyfansoddwraig o Ganada yw Charlotte Day Wilson, y mae ei cherddoriaeth yn asio elfennau o R& B, neo-soul a jas, gan greu sain sy’n unigryw iddi hi. Gyda’i halbwm diweddaraf Cyan Blue yn derbyn canmoliaeth eang a chan gydweithio ag artistiaid megis BADBADNOTGOOD o dan ei gwregys, mae ei llais pwerus a’i geiriau mewnblyg wedi ennyn apêl fyd-eang.
Cerddor gwerin Gwyddelig a chanwr-gyfansoddwr yw Fionn Regan a enwebwyd am Wobr Mercury. Ac yntau’n artist a chanddo synwyrusrwydd barddonol pwerus, mae’n fedrus wrth blethu delweddau prin â naratif byw. Mae Fionn yn perfformio yn Eglwys y Santes Fair Aberteifi ar benwythnos lansio ei albwm cyntaf mewn 5 mlynedd y bu disgwyl mawr amdano, sef ‘O Avalanche’.
Cafodd Victor Ray, sy'n 25 oed ei eni yn Uganda, a’i fagu yn Newcastle. Dechreuodd fysgio, aeth yn feirol ac mae bellach yn perfformio ei deithiau mawr ei hun, lle gwerthwyd pob tocyn, i ddilyniant o ffans sy'n ehangu o hyd. Yn wahanol i lawer o lwyddiannau’r cyfryngau cymdeithasol, diolch i'w lais anhygoel a'i dull adrodd straeon hynod bersonol, mae ei lwyddiant wedi trosi i'r byd ehangach gan ddenu miliynau o wrandawyr ar draws y byd.
Y LLWYBR CERDD
Y rhestr derfynol o artistiaid a fydd yn perfformio ar y Llwybr Cerdd fydd:
ADJUA / Big Sleep / Chubby Cat / Cynefin / David Kitt / Don Leisure / DUG / em koko / Eoghan Ó Ceannabháin / Fears / Filmore! / Gillie / girlfriend. / Lila Zing / Lleuwen / Megan Nic Ruairí / Melin Melyn / M(h)aol / Minas / Morgana / Mohammad Syfkhan / Mr Phormula / New Jackson / Niamh Bury / Niques / OLIVE HATAKE / Otto Aday / PARCS / People & Other Diseases / Phil Kieran / Po Griff / Rona Mac / Sage Todz / Search Results / Skunkadelic / Slate / Tara Bandito / The Family Battenberg / The Fully Automatic Model / The Gentle Good / Tiny Leaves / Virgins
Gellir hefyd datgelu’r lein-yp terfynol ar gyfer Llwybr Cerdd Lleisiau Eraill, gan ychwanegu at benwythnos bythgofiadwy o gerddoriaeth gyda dros 80 o setiau byw mewn lleoliadau ar draws Aberteifi. Gyda genres yn ymestyn o hip-hop i werin, roc i R&B, a phopeth yn y canol, mae’r Llwybr Cerdd yn arddangos y doniau gorau a mwyaf disglair o Gymru ac Iwerddon.
CLEBRAN
Billy Mag Fhloinn | Carwyn Graves | Carys Eleri | Christopher Kissane | Darren Chetty | Delyth Jewell | Edwina Guckian |
Hannah Quinn-Mulligan | James Dovey | Laura McAllister |
Lowri Cunnington Wynn | Makeba Nicholls | Marianne Kennedy | Max Zanga | Noel Mooney | Professor Diarmait Mac Giolla Chríost |
Séan McCabe | The Dingle Druid, Julí Ní Mhaoileóin | Tumi Williams
Mae’r sesiynau Clebran yn dychwelyd i’r Mwldan, lle gwahoddir siaradwyr a meddylwyr blaenllaw i ddod ynghyd i rannu syniadau, ysgogi sgwrs ac archwilio safbwyntiau newydd ar rai o faterion mwyaf perthnasol ein hoes, gyda pherfformiadau untro arbennig i gyd-fynd.
Wedi’u hychwanegu at raglen Clebran, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Séan McCabe, Pennaeth Cyfiawnder Hinsawdd a Chynaladwyedd ar gyfer Clwb Pêl-droed Bohemian yn Nulyn (y rôl gyntaf o’i bath ym mhêl-droed y byd), yn ymuno â “You’ll Never Walk Alone ” Pêl-droed Tu Hwnt i'r Cae. A Makeba Nicholls, cyflwynydd sy’n frwd dros helpu’r rheiny o gefndiroedd na chânt eu cynrychioli’n ddigonol i dorri i mewn i’r diwydiant Teledu a Ffilm, fydd yn arwain y panel Nawr yn Chwarae: Yr Artistiaid sy'n Llunio Seiniau Newydd Iwerddon a Chymru.
CLEBRAN AR HYD Y LLWYBR
Amy O'Brien | Constance Keane (Fears / M(h)aol) |
David Peregrine | Archdeacon Eileen Davies | Eoghan Ó Ceannabháin | Gareth Bonello (The Gentle Good) | Gareth Stewart | Georgia Ruth | | Lleuwen | Phil Keiran
Eleni, mae gennym elfen newydd sbon ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi, sef Clebran ar Hyd y Llwybr. Dyma gyfle i glywed gan gerddorion sy’n chwarae yn yr ŵyl… byddwn yn darganfod mwy am beth sy’n gyrru eu cerddoriaeth a beth mae eu cerddoriaeth yn ei yrru.
Bydd y cerddor Lleuwen yn siarad â’r cerddor a’r cyflwynydd radio Georgia Ruth am ddarganfod emynau coll Cymru sy’n rhoi cipolwg i ni ar brofiad hanesyddol menywod, a gafodd ei ddileu o’r llyfrau emynau yn y gorffennol.
Byddwn yn holi Eoghan O'Ceannabhain am ei waith gwleidyddol ac ymgyrchol, sy’n gymaint o ran o bwy ydyw â'i wreiddiau canu sean-nôs.
Mae Lleuwen yn ymuno ag Archddiacon Aberteifi, Eileen Davies ac ysgrifennydd cyffredinol ac organydd Capel Bethania, David Peregrine. Gyda'i gilydd byddant yn edrych ar grefydd a cherddoriaeth a mwy o safbwynt hanesyddol.
Bydd y DJ/Cynhyrchydd cerddoriaeth electronig Phil Kieran yn siarad â Gareth Stewart am y sîn rêf yn Belfast y 90au a'r pŵer yr oedd ganddi i uno.
Bydd Gareth Bonello/The Gentle Good yn sgwrsio â Georgia Ruth am gysgod gwladychiaeth, iaith ac enwau lleoedd, yn dilyn ei waith yng Nghwm Elan ac fel rhan o’r Khasi-Cymru Collective yng Ngogledd India.
Mae Constance Keane, sy’n adnabyddus hefyd fel Fears, ac aelod o M(h)aol yn dweud wrthym am ganoli’r safbwynt ffeministaidd a chwiar, gan drawsnewid poen yn neges bwerus o obaith a gwrthwynebiad mewn sgwrs ag Amy O’Brien.
Cynhelir sesiynau Clebran ar Hyd y Llwybr yng Nghapel a Festri hanesyddol Bethania. Bydd band arddwrn y Llwybr Cerdd yn rhoi mynediad i chi i holl ddigwyddiadau Clebran ar y Llwybr, yn amodol ar gapasiti.
Meddai’r Gweinidog Catherine Martin, Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau Iwerddon:
“Wrth ddathlu’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru, rwy’n falch iawn y bydd Lleisiau Eraill yn dychwelyd i Aberteifi yn 2024. Gyda chefnogaeth fy Adran i a’n gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth Cymru, mae’r ŵyl flynyddol gydweithredol dridiau hon yn cyflwyno rhaglen ysbrydoledig ac amrywiol o gerddoriaeth fyw a thrafodaeth afaelgar.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Rwy'n falch iawn o weld Lleisiau Eraill yn dychwelyd i Aberteifi am bumed flwyddyn, gyda sesiynau Clebran yn dychwelyd i Mwldan. Mae'r ŵyl wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr diwylliannol Cymru, gan ddod â chyfle unigryw i ddathlu a chryfhau ein cysylltiadau diwylliannol dwfn ag Iwerddon."
Llwyfannir Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon, a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cronfa Gymodi'r Adran Materion Tramor a chaiff ei chynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Mwldan a Triongl. Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion. Caiff Lleisiau Eraill Aberteifi ei ffilmio ar gyfer darllediad teledu sydd ar ddod ar BBC Wales ac RTÉ, ac ar BBC iPlayer ac RTÉ Player.
Gwerth eithriadol am arian gyda thocynnau’n costio £50 yn unig am dridiau o gerddoriaeth, trafodaeth a syniadau i dros 90 o berfformiadau a sgyrsiau ar draws tref Aberteifi. Archebwch nawr www.othervoices.ie