Gwaith celf cydweithredol teithiol yw Feeding Chair (2022) sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u babanod a’u plant ifanc mewn lleoliadau cyhoeddus.
Mae’r gadair yn cynnwys gwaith celf gan Jade de Montserrat, ac mae’n integreiddio gwaith sain a fideo gan artistiaid ac ymgyrchwyr am fwydo babanod, rhywedd, a mannau cyhoeddus. Mae’r gwaith yn gweithredu fel canolbwynt i rannu profiadau a herio agweddau cymdeithasol tuag at fwydo a bod yn fam.
Mae Chapter yn cydweithio gyda The Birth Partner Project, elusen o Gaerdydd sy’n darparu partneriaid geni gwirfoddol i gefnogi menywod sy’n ceisio lloches a fyddai fel arall yn wynebu beichiogrwydd, genedigaeth a bod yn fam ar eu pennau eu hunain. Byddwn yn gweithio ar y cyd i ystyried sut gall ein caffi gyfrannu at iechyd cyhoeddus ein cymunedau lleol a dod yn lle mwy croesawgar sy’n ateb anghenion rhieni a gofalwyr â phlant ifanc.
I gyd-fynd â’r gadair bydd Feeding Futures Floor Flag, a grëwyd gan Sally Sutherland fel man ar gyfer cysylltiad rhwng cenedlaethau, rhannu teimladau, gwrando a dealltwriaeth well o brofiadau amrywiol o fwydo babanod.
Ochr yn ochr â'r gosodiad, bydd Chapter yn dathlu Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd gyda chyfres o ddigwyddiadau:
Milk Report
Dydd Gwener 6 Awst, 11am
Ffilm fer gan yr artistiaid a'r dylunwyr Conway and Young o Fryste, sy'n archwilio gwleidyddiaeth ac economeg gofal drwy lens bwydo babi. Mae'r ffilm 20 munud o hyd yn canolbwyntio ar natur fyrfyfyr, anhrefnus, gyd-ddibynnol ac anniben esgor.
Bydd sesiwn holi ac ateb fer gyda’r artistiaid ar ôl y ffilm.
Mae croeso i fabanod, ac mae hwn yn ddangosiad hamddenol felly does dim angen i chi boeni am achosi aflonyddwch, bydd sain yn y sinema yn cael ei droi i lawr i lefel ddiogel.
Cynhyrchwyd Milk Report fel rhan o brosiect Feed . Mae Feed yn brosiect celf sy’n hyrwyddo ymagweddau cynhwysol a chynaliadwy tuag at fwydo babanod a mannau cyhoeddus.
Hefyd, wedi'i gynnal gan The Mama Cwtch:
Gweithdy Matrescence (Ôl-enedigol): Sesiwn blasu am ddim gan The Mama Cwtch
Dydd Sadwrn 2 Awst, 9.30am - 11am
Wedi'i anelu at famau newydd. Mae croeso cynnes i bartneriaid a rhai bach hefyd.
Gweithdy Matrescence (Ôl-enedigol): Sesiwn blasu am ddim gan The Mama Cwtch
Dydd Sadwrn 2 Awst, 11.30am - 1pm
Wedi'i anelu at famau beichiog. Mae croeso mawr i bartneriaid ddod draw.