Mae preswyliad Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) ym Mhrifysgol De Cymru, Llanbedr Pont Steffan, bellach ar y gweill. Mae dros 100 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru yno, yn gweithio'n galed yn ymarfer rhaglen gyngerdd egnïol Americanaidd cyn cychwyn ar daith yr wythnos hon.
Dan arweiniad yr arweinydd o fri rhyngwladol, Kwamé Ryan, bydd y rhaglen yn cynnwys Symphonic Dances gwych Bernstein o West Side Story a Porgy and Bess: A Symphonic Picture gan Gershwin.
Mae taith cyngerdd haf CGIC yn dechrau gydag Ymarfer Gwisg ar 30 Gorffennaf, yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol De Cymru yn Llanbedr Pont Steffan, cyn teithio i Eglwys Gadeiriol eiconig Tyddewi y diwrnod canlynol ar gyfer perfformiad yng Ngŵyl Gerdd Abergwaun.
Ar 1 Awst, byddant yn teithio i Eglwys Gadeiriol Henffordd ar gyfer Gŵyl y Tri Chôr, cyn cyfnod i fyny yn y gogledd yn Eglwys Gadeiriol gothig Llanelwy yn Sir Ddinbych, cyn mynd yn ôl i lawr i’r de ar gyfer cyngerdd cloi yn Neuadd y Brangwyn, lleoliad mawreddog yn Abertawe, ddydd Sul 3 Awst.
Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed y flwyddyn nesaf. Sefydlwyd y gerddorfa ym 1945, a pherfformiwyd ei chyngerdd cyntaf ym 1946. Mae’r Gerddorfa’n nodedig am mai hi yw cerddorfa ieuenctid genedlaethol gyntaf y byd.
Fel gyda phob ensemble CCIC, mae'r Gerddorfa yn datblygu profiad hyfforddi o'r radd flaenaf yn berfformiadau sy'n llawn angerdd ac yn gweithio gyda cherddorion proffesiynol uchel eu parch i helpu i gyflawni rhagoriaeth.
Ni ddylid colli'r perfformiad – archebwch docynnau heddiw!
Repertoire CGIC 2025:
Mason Bates - Attack Decay Sustain Release - 5’
Samuel Barber - Second Essay for Orchestra - 10’
Gershwin - Porgy & Bess, Symphonic Picture - 24’
Bernstein - Symphonic Dances, West Side Story - 23’
Wang Jie - America the Beautiful - 6’
Am ragor o wybodaeth am y cyngherddau ac i archebu tocynnau, ewch i: www.ccic.org.uk/digwyddiadur