Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer perfformwyr a phobl ifanc greadigol 11-25 oed, wedi penodi Evan Dawson yn Brif Weithredwr newydd.

Bydd Evan yn dechrau ar ei swydd gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) ym mis Hydref 2023.

Mae Evan, sy’n Gymro Cymraeg a aned yng Nghaerdydd, wedi gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol Live Music Now ac, yn fwy diweddar, fel Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol – lle y datblygodd strategaeth a hunaniaeth gynhwysol newydd, ei rhaglen ieuenctid gyntaf a chyfres o brosiectau celfyddydau gweledol a llesiant.

Yn sacsoffonydd a phianydd, roedd ei hyfforddiant cerddorol ef ei hun yn cynnwys grwpiau cerddoriaeth sirol De Morgannwg, cyn ymuno â’r Gerddorfa Jazz Genedlaethol Ieuenctid a threuliodd flwyddyn yn astudio jazz a cherddoriaeth stiwdio yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall. Ers hynny mae wedi arwain ei fand mawr 50 offeryn ei hun, mae wedi gwirfoddoli fel arweinydd cerddoriaeth ar brosiect ystâd dai ac wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y teledu a pherfformiadau byw.

Bydd gwaith Evan yn adeiladu ar etifeddiaeth gref Gillian Mitchell, a ymunodd â CCIC fel Prif Weithredwr yn 2018. Gadawodd Gillian CCIC ym mis Gorffennaf 2023 i ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru.

Gan sôn am ei benodiad, dywedodd Evan Dawson: “Rwy’n falch iawn o ymuno â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fel Prif Weithredwr newydd.  Ers ei sefydlu yn 2017, mae David a Gillian wedi datblygu tîm angerddol a medrus iawn o ymddiriedolwyr ac aelodau o staff, sy’n cyflwyno profiadau celfyddydol ysbrydoledig i filoedd o bobl ifanc.  Mae angen y gwaith pwysig hwn nawr yn fwy nag erioed o’r blaen.

“Rwy’n teimlo’n gyffrous o gael y cyfle i helpu i arwain y sefydliad i’r bennod nesaf, gan ddatblygu llwybrau i ystod eang o ddiwydiannau creadigol a helpu pobl o bob cefndir i gysylltu a ffynnu drwy ddigwyddiadau celfyddydol rhyfeddol a chydweithredol.  Yn ystod y blynyddoedd nesaf byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ac artistiaid ledled Cymru, gan feithrin gyda’n gilydd wlad hyderus a chyfoes, lle y gall pob person ifanc dawnus ffynnu.”

Dywedodd David Jackson, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CCIC: “Rydym wrth ein bodd bod Evan yn ymuno â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fel Prif Swyddog Gweithredol newydd.  Gyda’i arbenigedd eang yn y celfyddydau, busnes a gweinyddiaeth, ef yw’r person delfrydol i arwain CCIC i ddyfodol sy’n argoeli i fod yn gyffrous a heriol.

“Mae’n cymryd yr awenau oddi wrth ein Prif Weithredwr, Gillian Michell, sydd wedi datblygu’r elusen yn wych, gan adael cyfleoedd rhagorol i Evan adeiladu arnynt, ac rwy’n hyderus y bydd yn cyflwyno ei frand ei hun o wychder creadigol i’r rôl.  Mae fy nghyd-ymddiriedolwyr a minnau’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael gweithio gydag ef.”

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn elusen gofrestredig, ac mae'n derbyn cyllid rheolaidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, fel aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru.

 

Evan Dawson – bywgraffiad llawn

Ganed Evan yng Nghaerdydd, a mynychodd ysgolion Cymraeg, cyn cwblhau gradd yn y gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a chymhwyso fel cyfreithiwr gyda Mishcon de Reya. Yna cwblhaodd MA mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau ym Mhrifysgol Dinas Llundain, gan arbenigo mewn effeithiau addysgol a chymdeithasol y celfyddydau.

Mae Evan yn chwarae’r sacsoffon a’r piano, ac mae ganddo ddiddordeb yn y theatr, llenyddiaeth, ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau.  Wrth dyfu i fyny, fe wnaeth elwa ar gyfleoedd cerddoriaeth enwog sir De Morgannwg yn y 1980au a’r 90au, gan gynnwys y Band Chwyth Ysgolion Uwchradd a band mawr “Jazz News”.  Yn dilyn hyn, ymunodd â’r Gerddorfa Jazz Genedlaethol Ieuenctid a threuliodd flwyddyn ôl-raddedig yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall yn astudio jazz a cherddoriaeth stiwdio.  Arweiniodd ei fand mawr 50 offeryn ei hun yn Llundain, a bu’n gwirfoddoli fel tiwtor cerddoriaeth i blant ar Ystâd Dai Aylesbury.  Mae hefyd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu, gan gynnwys y diwn thema pedwarawd llinynnol ar gyfer “Only Connect” BBC Two (a ffilmiwyd yng Nghaerdydd) ac anthem gorawl (gyda band pres) ar gyfer yr Olympiad Diwylliannol yn 2012, a chwaraewyd am y tro cyntaf yn Neuadd Dora Stoutzker.

Yn ei yrfa broffesiynol, bu Evan yn Bennaeth Datblygu yn Making Music, yn datblygu polisi celfyddydau ac iechyd, yn ymchwilio i effaith grwpiau canu cymunedol ledled y wlad, a chomisiynu llawer o ddarnau newydd ar gyfer cerddorfeydd a chorau.  Yna cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredol Live Music Now (LMN), sy’n cyflenwi gwaith ar sail tystiolaeth mewn ysgolion, lleoliadau gofal iechyd a chymunedau ledled y DU, gan weithio gyda 350 a mwy o gerddorion llawrydd bob blwyddyn.  Yn 2019, o dan ei arweinyddiaeth, cyrhaeddodd LMN rownd derfynol Elusen y Flwyddyn fel cydnabyddiaeth o’i gwaith gydag ysgolion arbennig.  Mae wedi cyflwyno gwaith ymchwil ar y celfyddydau ac iechyd yn Nhŷ’r Arglwyddi, y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol, Oriel Sydney New South Wales ac (yn Gymraeg) yng Nghynulliad Cymru.  Yn dilyn hynny, fe’i penodwyd yn Brif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol, lle y creodd strategaeth a hunaniaeth gynhwysol newydd, ei rhaglen ieuenctid gyntaf a chyfres o brosiectau ar y celfyddydau gweledol a llesiant.  Mae hefyd wedi bod yn Gynghorydd Cenedlaethol i Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn ymgynghorydd gwerthuso i Sefydliad Cymunedol Quartet ym Mryste.