Ddiwedd mis Mawrth, roedd cerddoriaeth anhygoel yn llenwi'r awyr wrth i dros 20 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd yn Rockfield Studios, Trefynwy ar gyfer yr wythnos breswyl "Cerdd y Dyfodol."
Mae'r prosiect "Cerdd y Dyfodol," dan arweiniad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC), yn rhaglen datblygu cerddoriaeth gyfoes ar gyfer gwneuthurwyr cerddoriaeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n galluogi pobl ifanc 16-18 mlwydd oed, o gefndiroedd amrywiol, i ddarganfod eu potensial fel artistiaid, ac yn eu cefnogi i gamu i mewn i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg bresennol. Mae'r prosiect yn cynnwys genres fel Grime, Indi, Electronica ac RnB.
Wedi'i gynnal yn stiwdios eiconig Rockfield, lle mae sêr fel Queen, Led Zeppelin, Coldplay ac Oasis wedi gwneud recordiadau eiconig, roedd cwrs preswyl Cerdd y Dyfodol yn daith gyffrous o greadigrwydd, cydweithio a darganfod. Diolch i gyllid hael gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, dewiswyd y cerddorion uchelgeisiol hyn i gymryd rhan yn y rhaglen wythnos rhad ac am ddim o weithdai cyfansoddi caneuon, trafodaethau diwydiant, sesiynau recordio a chydweithio a chyfleoedd mentora.
Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: "Sefydlwyd ein Cronfa Sgiliau Creadigol i greu cyfleoedd i ddarpar bobl greadigol o bob cefndir a hyrwyddo arfer cynhwysol ar draws y sectorau. Mae'n wych gweld CCIC yn rhoi eu cyllid i ddefnydd rhagorol drwy ddarparu profiadau ymarferol a bywyd go iawn i artistiaid cerddoriaeth ein cenhedlaeth nesaf, ac mewn lleoliad mor eiconig! Bydd ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn ein galluogi i nodi ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd a fydd o fudd i bobl ifanc greadigol ac yn agor drysau newydd i'r diwydiannau creadigol."
Trwy gydol yr wythnos, cafodd cyfranogwyr eu harwain gan ein Mentoriaid o’r diwydiant proffesiynol a Mentoriaid y Dyfodol, gan fireinio eu sgiliau ac archwilio gorwelion newydd ym maes cynhyrchu cerddoriaeth, cyfansoddi caneuon a pherfformio. O feistroli'r grefft o bresenoldeb llwyfan i ymchwilio i gymhlethdodau peirianneg sain, roedd y cwrs preswyl yn llwyfan i dalentau ifanc ddisgleirio a thyfu. I lawer o gyfranogwyr, roedden nhw eisoes wedi datblygu sgiliau mewn cynhyrchu cerddoriaeth gyfrifiadurol - ond dyma oedd eu cyfle cyntaf i ddysgu sut i gydweithio mewn amser real gyda cherddorion eraill.
Dywedodd Lily Webbe, Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol CCIC: "Roedd cwrs preswyl Cerdd y Dyfodol yn brofiad mor gadarnhaol a gwefreiddiol i bawb a gymerodd ran. Rwy'n gobeithio bod y profiad hwn wedi eu hysbrydoli i archwilio eu creadigrwydd a'u helpu i ddarganfod y nifer o lwybrau a chyfleoedd gwahanol sydd gan y sîn gerddoriaeth Gymreig i'w cynnig. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl fentoriaid a mentoriaid y dyfodol gwych sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn, a'r tîm anhygoel yn Rockfield. Roedd eu cefnogaeth yn help mawr i wneud y cwrs preswyl yn brofiad gwirioneddol hudol i bawb."
Dywedodd Sky Dunning, cyfranogwr yn y rhaglen Cerdd y Dyfodol eleni: "Mae'r cyfnod preswyl hwn wedi helpu pawb o ran adeiladu ein dewrder wrth recordio cerddoriaeth wreiddiol ac mae hefyd wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ni mewn perthynas â rhyddhau, marchnata a hyrwyddo ein cerddoriaeth hefyd. Er mai dim ond am dridiau y buom ni yno, mae'r sgyrsiau’r diwydiant, cydweithfa'r prosiect a’r gallu cydweithio â phobl newydd o genres ac arddulliau amrywiol wedi fy helpu i fagu fy hyder fy hun hefyd".
Ond nid yw'r daith yn gorffen yn y fan honno. Wrth i ni ffarwelio â chwrs preswyl Cerdd y Dyfodol, edrychwn ymlaen at y bennod nesaf yn nhaith gerddorol y cyfranogwr ifanc. Cyn bo hir, byddwch yn gallu clywed dyfodol cerddoriaeth Gymraeg drosoch chi eich hun mewn gig sydd ar y gweill, lle bydd yr artistiaid ifanc eithriadol hyn yn camu ar y llwyfan yn barod i roi'r cyfan maen nhw wedi'i ddysgu ar waith.
Ymunwch â CCIC wrth i ni ddathlu potensial diderfyn y genhedlaeth nesaf yn The Corn Exchange, Casnewydd ar Ebrill 28 a pharatoi i weld dyfodol cerddoriaeth yn ei holl ogoniant.
Archebwch eich tocynnau trwy Corn Exchange heddiw!