Odyssey yw grŵp cymunedol oedolion Hijinx.

Eleni, rydym yn dathlu 25 mlynedd o greu theatr gymunedol ddifyr i deuluoedd.

Bob gaeaf mae ein haelodau’n perfformio yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru. Mae ein dramâu yn cael eu hysgrifennu ar gyfer y cast, sy’n gweithio gyda thîm cynhyrchu proffesiynol sy’n gweithio dros ein haelodau.

Eleni bydd ein cast hefyd yn dyfeisio a pherfformio darn o theatr awyr agored ar gyfer Gŵyl Undod Hijinx.

Mae ein haelodau:

  • Yn 25 oed a hŷn
  • Yn anabl a heb fod yn anabl
  • Wrth eu bodd yn perfformio
  • Yn ffynnu mewn cymuned brysur, hwyliog

A ydych yn mwynhau perfformio? A ydych yn chwilio am gyfle newydd cyffrous eleni?

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am 3 aelod niwronodweddiadol i ymuno â’r cast. 

Mae'n bwysig gwybod...

  • Amseroedd ymarfer: Nosweithiau Llun 7 – 9pm (yn ystod y tymor) a rhai penwythnosau (yn nes at berfformiadau)
  • Lleoliadau ymarfer: Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
  • Mae’r aelodau yn gymysgedd o rai â phrofiad proffesiynol a heb fod yn broffesiynol o berfformio
  • Mae ffi dymhorol o £40 (yn daladwy 3 gwaith y flwyddyn). Bydd hyn yn codi i £45 y tymor ym mis Ebrill 2024

Mae ein haelodau wedi llunio amgylchedd diogel, cefnogol. Maent yn ystyried eu hunain yn deulu ac maent yn eiddgar i groesawu egni newydd i’r grŵp.

Y broses o ymuno:

Cais (gweler y manylion isod) - rydym yn gofyn am geisiadau fel ein bod yn gallu dod o hyd i bobl sy’n ymroddedig ac a fydd yn addas i Odyssey.

Yna byddwn yn gwahodd unigolion i ymuno â ni am sesiwn flasu.

Byddwn ni yn gofyn sut y gwnaethoch chi weld y profiad ac os hoffech chi ddal i barhau.

Bydd y grŵp yn trafod pwy y maen nhw’n ei deimlo sydd yn gweddu orau i’r gymuned.

Byddwn yn cysylltu â phawb gyda’r canlyniad, a fydd yn gynnig i ymuno neu beidio.

Dylid anfon negeseuon e-bost at jon.dafydd-kidd@hijinx.org.uk. Y dyddiad cau i ymgeisio yw dydd Llun 1af Ebrill.

Dysgwch fwy am sut i wneud cais ar wefan Hijinx. E-bostiwch jon.dafydd-kidd@hijinx.org.uk gydag unrhyw gwestiynau. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!