Yn lansio'r mis hwn, bydd “Assemble” yn gweld Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr yn Ne Cymru. Mae'r prosiect, sydd hefyd yn digwydd yn Llundain a Manceinion, wedi'i gynllunio i fynd i'r afael ag ynysu ymysg pobl ifanc anabl 16-19 mlwydd oed trwy hybu eu cysylltiadau â'u cymuned gelfyddydol leol.
Bydd CCIC yn gweithio gyda thair ysgol nad ydynt yn brif ffrwd, ledled De Cymru, sy'n arbenigo mewn anghenion cymorth dysgu cymedrol neu ddifrifol.
Bydd y partneriaid yn adeiladu rhwydwaith o sefydliadau lleol ar gyfer pob ysgol sy'n darparu cyfleoedd a llwybrau dilyniant i'r celfyddydau a chyflogaeth. Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU.
Un o uchafbwyntiau'r rhaglen fydd cyfranogiad Ffrindiau Gigiau (prosiect clodwiw gan elusen Stay Up Late) sy'n paru gwirfoddolwyr ifanc â chyfranogwyr niwroamrywiol i fynd i gigiau, cyngherddau, a digwyddiadau diwylliannol eraill megis mynychu'r theatr ochr yn ochr â hyfforddiant perthnasol. Bydd Ffrindiau Gigiau yn hyfforddi a chefnogi “Ffrindiau” gwirfoddol i fynd gyda'r bobl ifanc i theatr a digwyddiadau diwylliannol eraill yn eu cymunedau.
Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Mae unigedd ymysg pobl ifanc anabl yn broblem enfawr yng Nghymru. Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni wedi gweld enghreifftiau dirifedi o sut y gall prosiectau theatr a chelfyddydau ysbrydoli, cefnogi a chysylltu pobl ifanc o ystod eang o gefndiroedd. Felly rydym ni’n gyffrous iawn i weithio gyda'n partneriaid yn NYTGB ar “Assemble”, a fydd yn gadael gwaddol barhaol ledled Cymru, gan helpu pobl ifanc anabl i ymgysylltu â chyfleoedd celfyddydol a diwylliant yn eu cymunedau lleol. Mae'n enghraifft arloesol o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau celfyddydol yn gweithio mewn partneriaeth.”
Dywedodd Paul Roseby OBE, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr: “Mae Assemble yn gam nesaf pwysig yn ein rhaglen cynhwysiant genedlaethol gynyddol a'n hymdrechion i drwsio'r cyswllt nad yw'n gwasanaethu talent ifanc anabl ar hyn o bryd. Bydd Assemble yn dod â phobl at ei gilydd, yn mynd i'r afael ag ynysu ac yn grymuso lleisiau ifanc i ffynnu. Rydym ni’n ddiolchgar i'n partneriaid yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth.”
I gael rhagor o wybodaeth am weithgarwch y prosiect ledled y DU, ewch i nyt.org.uk/assemble