Am dair noson fis Hydref eleni, mi fydd Castell Caernarfon yn cael ei drawsnewid wrth i’r cerddor Gruff Rhys a’r artist laser arloesol Chris Levine berfformio premiere byd “Annwn”.
Mae “Annwn” yn sioe laser a cherddoriaeth arallfydol sy’n cael ei berfformio o fewn muriau castell hynafol Caernarfon.
Bydd Gruff Rhys yn perfformio trac sain unigryw a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad a hynny i gyfeiliant sioe laser a golau ysblennydd a grëwyd gan Chris Levine.
Mae’r sioe olau a cherddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan weledigaeth Annwn – yr Arallfyd yn y Mabinogi.
Wrth ddychwelyd i’w ardal enedigol, meddai Gruff Rhys:-
“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn berwi ers blynyddoedd bellach ac rwy’n hapus i gael y cyfle o’r diwedd i’w wireddu ar ôl taro wal yn ystod y cyfnod clo. Rwyf wedi gweithio gyda’r dylunydd sain Marco Perry (sydd wedi gweithio gyda Bjork ymhlith eraill ar brosiectau sain ofodol) ar greu fersiynau newydd o rai o fy nghaneuon sy’n fwy ailadroddus ac amgylchynol. Caneuon fel Taranau Mai, Distant Snowy Peaks, Arogldarth a rhai darnau sy'n unigryw ar gyfer y digwyddiad.”
Yn deillio o’r ‘iy project’, sef ei waith gydag Eden Project, Cernyw, Annwn yw syniad yr artist golau rhyngwladol o fri Chris Levine a ddaeth i’r amlwg gyntaf gyda’i bortread enwog o 'The Queen, The Lightness Of Being' ac wedi hynny am ei ddefnydd arloesol o olau gyda’r artistiaid Massive Attack, Grace Jones a Jon Hopkins.
Meddai Chris Levine:
“Ar un lefel, Annwn yw’r sioe laser a sain orau y gallech chi erioed obeithio ei gweld, ond rydyn ni’n dod â rhai o dalentau creadigol a thechnegol gorau’r byd at ei gilydd i greu rhywbeth sy’n hollol wahanol i unrhyw beth y byddwch chi erioed wedi’i brofi mewn lleoliad gwirioneddol drawiadol! Fe’i comisiynwyd yn wreiddiol fel canolbwynt hanner canmlwyddiant Glastonbury yn 2020. Rydym wrth ein bodd ei fod bellach yn dychwelyd i’w wreiddiau ac yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yng Nghymru”.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal i gefnogi Samariaid Cymru.Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwydd Gweithredol Samariaid Cymru:
“Rydym yn hynod gyffrous a diolchgar i dîm Annwn am ddewis Samariaid Cymru fel eu helusen. Mae’r digwyddiad arloesol yma yn ceisio dod â phobl at ei gilydd i rannu profiad unigryw ac mae ganddo ffocws cryf ar gysylltu pobl. Dyma un o werthoedd craidd y Samariaid – credwn fod cysylltu efo pobl yn fodd cryf o amddiffyn pobl rhag risg hunanladdiad a chredwn y gall dangos trugaredd newid ac achub bywydau.
Dolenni
Gwefan - http://www.annwn.cymru
Facebook - https://www.facebook.com/AnnwnCymru
Instagram - https://www.instagram.com/annwn.cymru/
Twitter - https://twitter.com/AnnwnCymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Bydd Sesiynau Annwn yn digwydd o ddydd Gwener 27 Hydref tan ddydd Sul 29 Hydref, gyda pherfformiadau'n dechrau am 7.00pm ac yn rhedeg yn ddi-dor tan 11.00pm.
Lleoliad Annwn yw Castell Caernarfon: www.caernarfoncastle.com
Gwybodaeth tocynnau
Mae tocynnau nawr ar gael drwy See Tickets: https://www.seetickets.com/tour/annwn