Roedd Bae Caerdydd yn ffrwydriad o liw, egni a dathlu llawen dros ŵyl y Banc ddiwedd Awst wrth i Garnifal Trebiwt ddychwelyd i’r dociau. Gyda cherddoriaeth fyw, gweithdai amrywiol, gwisgoedd, bwyd a’r parêd enwog, llwyddodd y Carnifal i ddenu pobl o bob cwr o’r ddinas a thu hwnt.
“Roeddwn i yn y Carnifal cyntaf un. Cafodd hwnnw ei gynnal ym Mharc Butetown bum-deg-chwe mlynedd yn ôl,” meddai Keith Murrell, Prif Drefnydd y Carnifal a Chyfarwyddwr Creadigol Cymdeithas Gelf a Diwylliant Trebiwt. “Mardi Gras Trebiwt oedden ni’n ei alw bryd hynny, ond mae o wastad wedi bod yn ddathliad o gymuned Trebiwt. Mi dyfodd dros amser, nes tua chanol yr wythdegau pan oedd o, siŵr o fod yn fwy nac unrhyw ddigwyddiad diwylliannol arall yng Nghymru ar y pryd.”
Heddiw mae’r Carnifal yn hawlio ei le yn falch o flaen y Senedd, ac yn parhau i dyfu a ffynnu, ond heb anghofio am wreiddiau a hanes cyfoethog y digwyddiad.
“Mi ddaeth rhai o draddodiadau cynharaf y Carnifal gan forwyr Affro-Caribiaidd, a’r rheiny wedyn wedi plethu efo rhai o’n hen draddodiadau Cymreig ni, fel y Fari Lwyd,” meddai Keith. “Roedd yna ffair wastad wedi ei pharcio yn Sgwâr Loudon, ac mi fyddai’r ffair ar agor i bobl leol yn ystod y Carnifal.”
Cynhaliwyd Sgwrs Banel ‘Ddoe a Heddiw’ yn ystod y Carnifal eleni; cyfle i bobl hel atgofion am Garnifal Trebiwt y blynyddoedd a fu, yn ogystal â’i gysylltiadau â diwylliant Cymreig dros y degawdau.
Ers ei ddechreuad yn 1967 mae’r Carnifal wedi cael ambell saib, ond diolch i Keith a chriw o wirfoddolwyr brwd, ail-lansiwyd y Carnifal yn 2014, ac mae wedi ei gynnal yn flynyddol fyth ers hynny, gan ddatblygu ac ennyn mwy o gefnogaeth bob blwyddyn. Cefnogwyd Carnifal Trebiwt eleni gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â nifer o bartneriaid eraill gan gynnwys Y Senedd, Llywodraeth Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a llawer mwy.
“Mi fydda i wastad yn parchu ac yn cydnabod y rhai fu’n arwain y Carnifal yn y gorffennol,” meddai Keith, fu’n curadu casgliad arbennig o luniau, fideos a gwisgoedd o Archif Carnifal Trebiwt a ddangoswyd yn adeiladau y Pierhead a’r Senedd cyn y digwyddiad ei hun eleni. “Hoelion wyth cymuned Trebiwt; pobl fel Olwen Watkins a Vivienne ‘Chalkie’ White. Roedden nhw wedi creu etifeddiaeth a chyfoeth i ni ei hawlio a’i ddatblygu. Roedden ni’n gallu sefyll ar eu hysgwyddau nhw.”
Roedd Carnifal eleni yn rhoi llwyfan i dalentau lleol megis Luchia, sy’n 12 oed ac yn dod o Drebiwt ochr yn ochr â cherddorion byd-eang adnabyddus megis Akabu Queens, band reggae merched yn unig cynta’r byd, a Horace Andy o Jamaica. Bu’r parêd mawreddog yn wledd i’r llygaid eto eleni gyda gwisgoedd, cerddoriaeth, dawnsio a mygydau, yn ogystal â thomen o weithdai a gweithgareddau cymunedol a gynhaliwyd cyn ac yn ystod y Carnifal.
“Mae Theatr Byd Bach wedi creu cerflun anhygoel o ffenics,” meddai Keith, gan feddwl am amrywiaeth a chyrhaeddiad y carnifal erbyn hyn. “Dros fisoedd yr haf gallai unrhyw un fynd a chreu pluen eu hunain fyddai wedyn yn cael ei hychwanegu at y cerflun. Felly mae’r ffenics yn perthyn i, ac yn cynrychioli’r gymuned os hoffech chi. Roedd gweithdy cerddoriaeth Somalia a gweithdy drymiau hefyd.”
Yn dilyn deuddydd o hwyl ac asbri ym Mae Caerdydd, mae Keith yn meddwl am rôl y Carnifal, a’r hyn mae’n gobeithio ei gyflawni yn y dyfodol.
“Hanfod Carnifal Trebiwt yw dathlu a pharchu amrywiaeth cyfoethog ein cymunedau, gan wahodd pawb i ymuno â ni yn y dathlu hefyd. Y frawddeg sy’n hyrwyddo’r Carnifal yw’r un o gân enwog Bob Marley sy’n dweud, ‘Let’s get together and feel alright’ a dyna ydan ni eisiau ei gyflawni. Os wnawn ni hynny, byddwn ni’n cael gwared ar rwystrau ac yn dod â phobl yn nes at ei gilydd.”
Meddai Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae carnifal yn wledd i’r synhwyrau; y gerddoriaeth, y dawnsio, y gwisgoedd, y bwyd ac wrth gwrs, y bobl. A tydi Carnifal Trebiwt ddim yn eithriad. Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r Carnifal yn dod â phobl at ei gilydd o wahanol gefndiroedd, ac yn creu gofod i bawb fod gyda’i gilydd, i fwynhau gyda’i gilydd a dod i adnabod ei gilydd. Mae mor bwysig ein bod ni fel Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi digwyddiadau fel Carnifal Trebiwt, digwyddiad sy’n edau lachar iawn yn nhapestri cyfoethog ein gwlad.”