Mae Canolfan S4C Yr Egin yn edrych ymlaen at ail danio gwasanaeth teledu lleol ‘Shwmae Sir Gâr’ i drigolion y sir.  

Yn ddiweddar, mae Canolfan S4C Yr Egin wedi lansio prosiect newydd ‘TANIO’, cais llwyddiannus gwerth £178,636  o Gronfa Cymunedau Cynaliadwy, sy’n rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ddosberthir gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. Nod y prosiect yn ei chyfanrwydd yw hyrwyddo balchder bro, hyder a chreadigrwydd. Elfen gyffrous o’r prosiect yw datblygu gwasanaeth ‘teledu lleol’ arlein ar gyfer Sir Gaerfyrddin, sianel ddigidol a fydd yn rhoi perchnogaeth i drigolion y sir i ddweud ei dweud, i rannu’u straeon a’u gobeithion, yn ogystal ag adlewyrchu hanes a diwylliant byw bröydd o fewn y sir. 

Mae’r Egin yn falch iawn o gyhoeddi y byddant yn cydweithio gyda chwmni cynhyrchu Carlam unwaith yn rhagor i greu’r deunydd, a bydd cynnwys newydd “Shwmae Sir Gâr” yn cael ei rannu ar blatfformau Instagram, Facebook a Tik Tok o’r mis yma ymlaen. 

Yn ystod y flwyddyn nesa bydd ‘Shwmae Sir Gâr’ yn rhannu straeon trigolion o bob rhan o’r sir mewn amryw o eitemau. Mae’n fwriad i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sir, yn ogystal ag annog dysgwyr i ddefnyddio’r iaith. Un o amcanion y prosiect hefyd yw creu cyfleoedd i ddatblygu talent newydd, boed hynny o flaen neu du ôl y camera. 

Y swyddog fydd yn arwain ar y gwaith yma ar ran Yr Egin yw Lowri Siôn. Dywedodd: 

“Dwi’n hynod gyffrous i gydlynnu’r prosiect ‘Teledu lleol’ sy’n rhoi cyfle i bobl o bob cwr o’r sir i brofi a magu hyder yn y maes creadigol mewn modd hwylus. Dwi’n ferch sydd wedi ei magu yn y sir brydferth hon, a dwi’n ymfalchïo yn y ffaith fy mod yn rhan o rywbeth arbennig fydd yn galluogi llais cymunedau ar draws y sir cael ei chlywed.” 

Mae cwmni cynhyrchu Carlam wedi ymgartrefu yn Yr Egin ers y dyddiau cynnar, ac yn ymfalchio o fod yn rhannu’r un ethos ar gyfer meithrin talent a rhannu straeon llawr gwlad. Mae’r cwmni yn cyflogi 14 o staff a gweithwyr llawrydd, ac maen nhw newydd gael eu enwebu ar gyfer gwobr New Voice Awards 2024 am eu prosiect ar gyfer Hansh. Un o raddedigion diwedd y Brifysgol, Euros Llŷr Morgan yw Cyfarwyddwr y cwmni. Meddai: 

“Mae’n fraint i gael cyd-weithio gyda Chanolfan Yr Egin unwaith yn rhagor ar y prosiect cyffrous hwn. Mae’r gwasanaeth cynnwys aml blatfform hon yn gerbyd arbennig i rannu’r hyn sydd yn bwysig i drigolion y sir ond yn ogystal yn gyfle anhygoel i feithrin talent newydd o flaen a thu ôl y camera. Fel cwmni, rydym yn falch iawn i gyflogi 80% o’n gweithlu o’r Gorllewin.” 

Un sydd wedi buddio o’r prosiect ‘Shwmae Sir Gâr’ y tro diwethaf oedd Tina Evans o Borth Tywyn. Dywedodd:

“Fe wnes i fwynhau’r profiad o ffilmio gyda chriw ‘Shwmae Sir Gâr’ y llynedd. Roedd hi’n grêt i fedru dangos rhan brydferth o Gymru i bobl byddai nifer ddim yn yn gyfarwydd â hi. Bu’n gyfle arbennig i ddatblygu fy sgiliau cyflwyno, ac i fagu hyder o flaen camera sydd wedi arwain at nifer o gyfleoedd eraill gan gynnwys cyflwyno o’r Gemau Paraolympaidd.” 

Eisoes mae elfen arall o brosiect TANIO sef y clybiau i blant a phobl ifanc ar y gweill,  mi fydd y clybiau yn bwydo i’r sianel ac mae tîm Yr Egin yn edrych ymlaen at sicrhau effaith ieithyddol, diwylliannol a chreadigol yn sgil y prosiect gyffrous. 

Felly Sir Garwyr os hoffech gynnig stori ar gyfer y sianel, cysylltwch â helo@yregin.cymru neu galwch heibio’r Egin am sgwrs. A chofiwch ddilyn a mwynhau y sianel yn fan hyn - 

https://www.facebook.com/shwmaesg

https://www.instagram.com/shwmaesirgar/

https://www.youtube.com/@yregin287