I ddathlu 25 mlynedd o ariannu’r Loteri Genedlaethol, mae Canolfan Mileniwm Cymru – a ariannwyd yn rhannol gan y Loteri Genedlaethol – wedi cyhoeddi llun sy’n dangos sut y byddai tirlun Bae Caerdydd yn edrych pe na bai’r Ganolfan yn bodoli.
Mae hyn yn rhan o ymgyrch syfrdanol ledled Prydain lle mae’r lledrithiwr Julius Dein yn gwneud i’r cerflun eiconig Angel y Gogledd ‘ddiflannu’, er mwyn amlygu sut y byddai’n tirwedd ni’n edrych heb arian y Loteri.
Mae Loteri Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn galw ar eu prosiectau i bostio lluniau a chapsiynau ar y cyfryngau cymdeithasol o’r hyn sy’n eiconig yn eu cymuned nhw na fyddai yma heb y gefnogaeth ariannol. O orielau i glybiau arlunio – os yw’n eiconig i gymuned, rydyn ni’n annog grwpiau i bostio.
Mae’r lluniau’n tynnu sylw at rai o adeiladau a phrosiectau celfyddydol mwyaf adnabyddus y DU, yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Angel y Gogledd, The Lowry, The Tate Modern a llawer mwy.
Cyfrannodd cronfa’r Loteri Genedlaethol £31.7 miliwn tuag at adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r Ganolfan – sy’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed y mis nesaf, yn un o’n hadeiladau mwyaf eiconig; mae hi’n denu dros 1.5 miliwn o bobl bob blwyddyn ac yn cyfrannu dros £50 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.
Mae’r safle, sy’n gorchuddio 4.7 erw o dir ym Mae Caerdydd, yn cynnwys theatr Donald Gordon sydd â 1,800 o seddi, Neuadd Hoddinott y BBC, dau ofod perfformio llai – Stiwdio Weston a Ffresh – ac wyth sefydliad preswyl, yn cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a’r Urdd.
Dywed Nick Capaldi, Cadeirydd Fforwm Loteri Genedlaethol Cymru a Phrif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “The National Lottery has funded over 13,000 projects throughout Wales and distributed £287m of National Lottery funding. It has helped transform arts buildings in Wales, creating a network of landmark buildings. The funding has also been used – and continues to be used – to support artists and organisations to make new and exciting work for people across the country.”
Dywed Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: “Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi bod yn un o lwyddiannau nodedig y Loteri Genedlaethol ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth. Gobeithiwn y bydd yr ymgyrch yma’n helpu i godi ymwybyddiaeth bod y Loteri Genedlaethol wedi cael effaith hynod bositif ar y celfyddydau, a bod tirwedd ddiwylliannol y genedl yn fwy cyfoethog o lawer, diolch i arian y Loteri.”
Mae Angel y Gogledd gan Antony Gormley yn un o’r darnau celf modern cyhoeddus mwyaf enwog yn y DU, ac yn cael ei weld gan 90,000 o bobl bob dydd. Fe godwyd y gwaith celf ar 15 Chwefror 1998 ac ariannwyd dros 70% o gyfanswm y gost – £584,000 – gan y Loteri Genedlaethol. Yn y fideo a gyhoeddwyd heddiw, mae Julius Dein yn syfrdanu’r trigolion lleol trwy wneud i’r cerflun eiconig ddiflannu, gan ddangos pa mor wahanol fyddai tirlun y DU yn edrych heb arian y Loteri Genedlaethol.
Wedi’i adeiladu i wrthsefyll gwyntoedd o dros 100mya, ac yn pwyso 100 tunnell fetrig, mae Angel y Gogledd gan Antony Gormley yn rhoi’r argraff o fod yn gwbl ansymudol wrth iddo edrych dros Gateshead a gogledd-ddwyrain Lloegr. Mewn fideo a gyhoeddwyd heddiw, mae Julius Dein yn defnyddio’i hud a lledrith anhygoel i wneud i gampwaith Gormley ddiflannu’n sydyn o’r dirwedd, gan syfrdanu’r trigolion lleol a welodd y rhith yn fyw, a’i 6 miliwn o ddilynwyr ar Instagram.
Dywed Julius Dein: “I am delighted to be working with The National Lottery for their 25th birthday in raising awareness for all the iconic and community art projects they have supported and funded over the last 25 years. Antony Gormley’s The Angel of the North is iconic and is the ephemeral symbol of the north which celebrates the roots of the people that live here. I have created this illusion with The National Lottery to raise awareness of how bare the UK’s art landscape would be without this funding, and we shouldn’t take that for granted.”
Mae’r gamp yn dod fel rhan o ymchwil newydd gan y Loteri Genedlaethol sy’n dangos bod creadigrwydd yn ffurfio rhan enfawr o fywydau pobl ar draws y DU. Mae traean (34%) o’r rhai a atebodd yr holiadur yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn eu hamser sbâr, a 43% pellach yn dweud yr hoffent wneud mwy. Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd 57% eu bod nhw’n teimlo’n hapusach ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol; dywedodd dros eu hanner (56%) eu bod yn teimlo’n fwy ymlaciedig, a dywedodd dau ym mhob pump (41%) fod y gweithgaredd creadigol wedi gwneud iddynt deimlo’n fwy iach yn feddyliol.
Ers 1994, buddsoddwyd dros £5 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol ym myd y theatr, cerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth a phrosiectau celfyddyd weledol. Mae tua £6 miliwn yn cael ei ddyfarnu i brosiectau celfyddydol gan y Loteri Genedlaethol bob wythnos. Mae 40% o’r boblogaeth yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau, gan gynnwys y 1,400 o orielau a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol.
Ffynonellau
DCMS database - Search: Good Cause Area: Arts
TNL Annual Results: £30M pw for Good Causes, 20% for Arts