Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn gweithredu fel un o'r pedwar partner cynhyrchu ar gyfer prosiect Celfyddydau Ymdrochol, gan adeiladu ar ei gwaith yn y maes hwn gyda'i lleoliad realiti estynedig pwrpasol Bocs – y cyntaf o'i fath mewn canolfan gelfyddydol yn y DU – a'i phrofiadau realiti rhithwir arobryn ei hun.

Mae'r term 'technoleg ymdrochol' yn cwmpasu sbectrwm eang o offer a thechnolegau, gan gynnwys yr injans gemau a ddefnyddir i greu apiau realiti rhithwir ac estynedig fel Beat Saber neu Pokémon Go, yn ogystal â hud y dechnoleg cipio delweddau symudol, sgriniau LED a sain gofodol yn Abba Voyage.

Bydd y prosiect tair blynedd yn cael ei ariannu drwy grant o £6 miliwn gan XRtists, partneriaeth uchelgeisiol rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Chyngor Celfyddydau Lloegr, Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Cymru, a bydd yn adeiladu ar record y DU o gefnogi artistiaid i ddatgloi potensial creadigol technoleg newydd.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i artistiaid gael mynediad at hyfforddiant, mentora, cyfleusterau arbenigol ac arian hanfodol, gyda chyfran o £3.6 miliwn o gyllid grant ar gael i helpu artistiaid o Gymru i roi eu syniadau ar waith.

Meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru:

"Rydym yn falch iawn o fod yn bartner ar gyfer cyfle gwych a fydd yn creu gofod ac amser i gwestiynu, ymgysylltu ac ehangu dulliau o adrodd straeon. Mae'r groesffordd rhwng technoleg ymdrochol a gwaith artistig byw yn hynod ddiddorol, a bydd y rhaglen hon yn galluogi artistiaid, pobl ifanc a chymunedau i archwilio'r posibiliadau hyn ac adrodd eu straeon yn y ffyrdd y maent am wneud hynny.

"Mae'n gyffrous ein bod yn ymuno â sefydliadau sy'n rhannu ein hawydd i gefnogi pobl greadigol datblygol mewn ffordd gynhwysol a gofalgar. Allwn ni ddim aros i ddechrau rhannu'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu â mwy o bobl, a gweithio gyda nhw i adeiladu sylfaen gref ar gyfer ein huchelgeisiau yn y dyfodol yn y maes hwn."

Bydd y rhaglen yn cael ei harwain gan Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE Bryste), gyda'r prif ganolbwynt yn Pervasive Media Studio ym Mryste, a Watershed fydd y Cynhyrchydd Gweithredol. Bydd PMStudio yn gweithio gyda phartneriaid cynhyrchu ym mhob un o bedair cenedl y DU, gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yn ymuno â Watershed yn Lloegr ochr yn ochr â Nerve Centre yng Ngogledd Iwerddon a Cryptic yn yr Alban. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae'r pedwar partner hyn wedi cefnogi mwy na 5,500 o artistiaid ac wedi rhannu gwaith â chynulleidfa o dros 70.5 miliwn o bobl.

Dywedodd Lisa Matthews-Jones o Gyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae hon yn bartneriaeth unigryw gyda chenhedloedd eraill y DU i greu cyfleoedd cynhwysol i archwilio posibiliadau technoleg greadigol i rannu profiadau ac adrodd straeon gydag effaith. Mae Canolfan Mileniwm Cymru mewn sefyllfa berffaith i adeiladu ar eu gwaith eu hunain a chefnogi gwaith eraill yng Nghymru er budd cynulleidfaoedd presennol a rhai'r dyfodol."

Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lucy Frazer:

"Mae'r llywodraeth eisoes wedi buddsoddi £75 miliwn i adeiladu rhwydwaith o labordai Ymchwil a Datblygu ledled y DU a fydd yn ein rhoi ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn effeithiau gweledol, technoleg cipio delweddau symudol ac AI ar gyfer y diwydiannau sgrin a llwyfan. Bydd y cyllid newydd hwn yn helpu hyd yn oed mwy o'n hartistiaid a'n pobl greadigol mwyaf disglair i harneisio pŵer y dechnoleg arloesol hon. Bydd datblygu'r sgiliau a'r seilwaith sy'n sail i dechnoleg ymdrochol yn gwneud y mwyaf o botensial ein diwydiannau creadigol pwerus ac yn cyflawni ein nod o'u tyfu o £50 biliwn erbyn 2030."