Bydd pobl ifanc F/fyddar yng Nghaerdydd a’r cyffiniau yn gweithio a dawnsio gyda’r coreograffydd o Awstralia, Anna Seymour, y gellid dadlau ei bod yn un o’r dawnswyr B/byddar uchaf ei chlod sy’n gweithio’n rhyngwladol heddiw. Bydd tua deg o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn ysgol ddawns wythnos o hyd dros yr haf, fel rhan o brosiect blwyddyn o hyd Cwmni Ifanc Jones y Ddawns, Quiet Beats (gweithdai dawns creadigol wedi eu teilwrio’n arbennig ar gyfer pobl ifanc F/fyddar yn ne Cymru).
Dewiswyd Anna gan aelodau Quiet Beats eu hunain yn ystod hanner tymor mis Mai. Fe wnaethant gyfweld tri ymgeisydd trwy sesiwn clyweliad/gweithdy. Bu Anna’n gweithio gyda’r cwmni rhyngwladol o bwys, Candoco, ers 2020 yn perfformio gyda nhw ar draws y byd. Yn ystod yr wythnos bydd y bobl ifanc yn gweithio ar dechneg dawns, yn dysgu coreograffi gan Anna ac yn creu eu dawnsfeydd eu hunain.
Bydd y bobl ifanc hefyd yn cael y cyfle i weithio gydag artist dawns lleol o Gymru, Jules Young, a fydd yn rhannu ei arddull ei hun gyda nhw. Byddant yn anelu at ddatblygu sgiliau traed ac yn archwilio dulliau cofio symudiadau trwy gemau a thasgau hwyliog. Ar ddiwedd yr wythnos byddant yn rhannu’r hyn y byddant wedi bod yn ei wneud gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau.
Cychwynnodd Quiet Beats a Chwmni Ifanc Jones y Ddawns yn ystod y pandemig gyda’r nod o gynnig y cyfle i bobl ifanc F/fyddar roi cynnig ar ddawns mewn amgylchedd cefnogol sydd wedi ei deilwrio i’w hanghenion fel pobl ifanc F/fyddar. Datblygwyd y prosiect gyda’r dymuniad i greu profiadau eithriadol i bobl ifanc nad ydynt fel arfer yn cael mynediad at gyfleoedd o’r fath i ffynnu a datblygu mewn dawns. Trwy wahodd coreograffwyr rhyngwladol ac o Gymru, y nod yw datblygu sgiliau corfforol a meddyliol, gweithio mewn tîm, cydweithio a sgiliau creadigol.
Arweinir Quiet Beats gan Swyddog Dawns Jones y Ddawns, Amber Howells a ddywedodd:
“Mae’n wych gallu gwahodd Coreograffydd B/byddar o’r calibr hwn i ddod i weithio gyda’r grŵp a’i ysbrydoli i nodi diwedd blwyddyn ffantastig”
Gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Quiet Beats wedi ehangu o fod yn ysgol haf i fod yn rhaglen flwyddyn o hyd o weithdai am wythnos yn ystod gwyliau hanner tymor a’r gwyliau haf. Mae Jones y Ddawns hefyd wedi bod yn rhedeg gweithdai blasu ar draws de Cymru i blant ifanc B/byddar, gan fynd â’u dosbarthiadau wedi eu teilwrio’n arbennig i ysgolion sy’n rhoi adnoddau penodol i blant ifanc B/byddar ac i ganolfannau i’r Byddar yn Abertawe, Casnewydd, Pontypridd a Chwmbrân, ymhlith eraill.
Wrth siarad am y cynllun dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Jones y Ddawns, Gwyn Emberton:
“Mae Cwmni Ifanc Jones y Ddawns yn rhan o’n nodau ac ymrwymiad parhaus i ddatblygu dawns yng Nghymru trwy greu cyfleoedd i bobl ifanc a all feddwl nad yw dawns iddyn nhw neu sydd heb gael y cyfle i ddawnsio o’r blaen. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf rydym wedi bod yn datblygu ein gwybodaeth a’n profiad i ddarparu dawns o’r lefelau lleol i lefel broffesiynol. Rydym yn canolbwyntio ar ddod â dawns i gymunedau sy’n wynebu rhwystrau difrifol i’w hatal rhag cael mynediad at ddawns a rhannu ein harbenigedd ar draws Cymru. Ein gweledigaeth yw trawsnewid pwy sy’n cael creu a phrofi dawns, gyda’r gobaith y bydd rhai o’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn Quiet Beats yn dod yn genhedlaeth nesaf o ddawnswyr o Gymru.”
Mae lleoedd yn dal ar gael i ymuno ag ysgol haf Quiet Beats sydd ar gyfer unrhyw un sy’n Fyddar neu Drwm ei Glyw, rhwng 7 ac 17 oed. Bydd y sesiynau yn rhedeg rhwng 29 Gorffennaf a 2 Awst yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd. Bydd pob oed yn aros ar gyfer sesiwn y bore rhwng 10am a hanner dydd ac yna bydd y rhai 12+ yn aros ar gyfer y prynhawn rhwng 12:30 a 3pm. Mae’r sesiynau am ddim ond mae’n hanfodol archebu lle trwy’r wefan. Mae bwrsariaethau teithio ar gael i’r rhai sy’n teithio o’r tu allan i Gaerdydd ac sydd angen cymorth i deithio.
https://www.jonesthedance.com/youngcompanybooking/quiet-beats-summer-sc…
Cysylltwch ag Amber Howells, y Swyddog Dawns os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ar quietbeats@jonesthedance.com.
Mae’r cwmni’n disgwyl y bydd mwy o weithdai ac ysgolion dawns yn digwydd trwy gydol hydref 2024 a gwanwyn a haf 2025 gyda choreograffwyr proffesiynol amlwg.