Bydd Krystal S. Lowe – coreograffydd a dawnsiwr a aned yn Bermuda ac sydd bellach wedi’i lleoli yng Nghymru – yn dod â’i gwaith theatr ddawns diweddaraf, sef Mud Pies, i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar Hydref 24!

Mae Mud Pies yn adennill y mannau gwyrdd a’r lles sydd ynddynt i ni. Mae’n gwrthryfela yn erbyn defnyddio ‘ymddwyn fel boneddiges’ i olygu bod yn lân, yn ddistaw ac yn dyner. Galwad yw Mud Pies i wneud llanast, bod yn uchel eich cloch, ac yn ddi-ofn wrth fforio’r mannau gwyrdd hyfryd sy’n plethu ar hyd a lled ein gwlad.  

Ar lethrau Blaen Brân, treuliodd Krystal y diwrnod yn ailddarganfod ac ailhawlio ei rhyddid mewn mannau gwyrdd. Trwy ddefnyddio dawns, fideo, a phridd bydd yn rhannu’r fforiad yma gyda chi. 

Drwy’r dangosiad agos-atoch a dynamig hwn o gorfforoldeb, bydd Mud Pies yn rhannu taith un fenyw gan ddefnyddio elfen gorfforol y garddio, ac archwilio’r mannau gwyrdd o’i chwmpas, i ddysgu sut mae llanast a chamgymeriadau’n holl bwysig i lesiant, hunan-gariad, a rhyddid. 

Yn dilyn y perfformiad, cynhelir trafodaeth ôl-sioe ar ailhawlio mannau gwyrdd a sut mae hyn yn cysylltu â chelfyddyd. 

‘Nid dim ond darn rwy’n ei gyflwyno yw Mud Pies; yn hytrach, mae’n daith go iawn rydw i arni ar hyn o bryd – taith o hunan-ddarganfod, hunan-gariad, ac ailgysylltu â mannau gwyrdd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at rannu’r gwaith hwn gyda chynulleidfaoedd yn Aberystwyth!’

- Krystal S. Lowe

Cynhelir perfformiad premiere Mud Pies yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth 

ar Hydref 24 am 7:45yh.

Canllaw Oedran: 16+

Hyd y perfformiad: 1 awr (dim egwyl)

Hygyrchedd: Darperir sain-ddisgrifiad wedi’i recordio o flaen llaw y gall cynulleidfaoedd gael mynediad ato ar eu dyfeisiau eu hunain cyn, yn ystod, ac ar ôl y sioe. 

Archebwch eich tocynnau nawr! 

https://www.aberystwythartscentre.co.uk/dance/mud-pies