Yn dilyn perfformiadau ar hyd a lled Ewrop yn ystod y gwanwyn, a welodd pob tocyn yn cael ei werthu, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n dychwelyd i lwyfannau’r Deyrnas Unedig gyda pherfformiad dwbl o ddawns ddynamig. Bydd Gorwelion yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd brofi dau fyd gwahanol; trwy feddwl am y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw, ac edrych tuag at y dyfodol.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n adnabyddus am ei berfformiadau ysbrydoledig, sydd wedi’u saernïo’n wych, ac yn cyfuno coreograffi trawiadol, gwaith dylunio rhyfeddol a cherddoriaeth newydd.

Mae ‘Gorwelion’ yn cynnwys dau berfformiad sy’n gymysgedd o symudiadau syfrdanol a storïau ystyrlon. 

Mae’r perfformiad dwbl yn cynnwys y perfformiadau cyntaf o ‘AWST’ gan Gyfarwyddwr Artistig y cwmni, Matthew William Robinson, a ‘Skinners’ gan Melanie Lane – sef coreograffydd o Awstralia sy’n hanu o dreftadaeth Ewropeaidd a Jafanaidd.

AWST fydd un o dri o weithiau olaf Matthew i’r cwmni cyn iddo adael i gymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Artistig ŻfinMalta ym mis Ionawr 2025.

“Mae yna adegau mewn bywyd pan fyddwn yn gweld ein bod ar y ffin rhwng yr hysbys a’r anhysbys. Mae ‘Gorwelion’ yn cipio teimlad yr adegau hyn, y teimlad o gamu ymlaen i’r anhysbys, y wefr, yr ofn a’r ymdeimlad o ddarganfod”, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew Robinson.

O ran hanner cyntaf y perfformiad dwbl, mae darn 30 munud o’r enw AWST yn gynhyrchiad cydweithredol rhwng Matthew William Robinson, dawnswyr y cwmni, y cyfansoddwr, Torben Sylvest, a’r dylunwyr, George Hampton Wale ac Emma Jones.
Mae AWST yn arddangos medrusrwydd athletaidd dawnswyr Cymru i gyfeiliant cerddoriaeth ddyfeisgar sy’n ymgorffori synau peiriannau. Mae’r dawnswyr wedi’u gwisgo mewn siwtiau wedi’u dadelfennu, sy’n tywynnu’n wefreiddiol yn y golau neon a ysbrydolwyd gan fachlud yr haul.

“Mae ‘AWST’ yn ymwneud â’r newidiadau sy’n ein dwyn ynghyd ac yn ein gwahanu. Mae’r gwaith fel cerdd, cyfres o ddelweddau hynod gorfforol sy’n ennyn ac yn gwahodd ystyr. Bu’n bleser ei greu gyda dawnswyr y cwmni, a fydd yn eich syfrdanu’r hydref hwn”, dywedodd Matthew.
 

Bydd ail hanner y digwyddiad, sef ‘Skinners’ gan Melanie Lane, yn tywys cynulleidfaoedd i dirwedd ddigidol sy’n pylu ffiniau realiti. Bydd cerddoriaeth electronig a goleuadau’n boddi’r llwyfan wrth i wisgoedd dramatig ganiatáu i’r dawnswyr drawsffurfio eu hunain rhwng bod yn rhithffurfiau picseledig dau ddimensiwn ac yn fodau dynol.

“Mae’n bleser gen i groesawu Melanie Lane i Gymru ac i CDCCymru. Mae ei gwaith newydd sbon, ‘Skinners’, yn mynd i’r afael â’n perthynas esblygol â’n hunain mewn byd sy’n cael ei ymestyn trwy gyfryngau digidol. Mae ei gwaith yn gymhleth a phwerus, y mae ei brofi’n wefr”,
eglurodd Matthew.

Ochr yn ochr â ‘Gorwelion’, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n mynd ar daith gyda’u sioe boblogaidd i ysgolion a theuluoedd, sef ‘Lea Anderson’s Zoetrope’.  Sioe awr o hyd yw Zoetrope, sy’n cynnwys cynlluniau gwersi ar gyfer athrawon. Mae Zoetrope ar gael gyda disgrifiad sain ym mhob lleoliad.

Cysylltwch â ni os ydych yn ysgol sydd â diddordeb mewn helaethu eich cwricwlwm celfyddydau mynegiannol gyda thrip i’ch theatr leol”, dywedodd Matthew.

Mae cynulleidfaoedd sy’n profi’r bydoedd a gaiff eu creu ar y llwyfan gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n gadael y perfformiadau a’r rheiny wedi’u bywiogi a’u hysbrydoli gan ddoniau arbennig y dawnswyr.
Dilynir pob perfformiad â sgwrs, pryd y gall cynulleidfaoedd ddysgu rhagor am y gwaith, ynghyd a bywyd fel dawnsiwr proffesiynol; cyflwynir nifer o’r sgyrsiau hyn gyda chefnogaeth darpariaeth BSL ar y pryd. 
 

Cefnogir y daith trwy haelioni Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Bydd Gorwelion yn teithio o fis Medi i fis Tachwedd 2024, gan ymweld â Chaerdydd, Henffordd, Abertawe, Llundain, Aberhonddu, Y Drenewydd, Bangor, Huddersfield ac Aberystwyth.

I archebu tocynnau ar gyfer Gorwelion, neu i gael rhagor o wybodaeth am Zoetrope, gall cynulleidfaoedd ymweld â ndcwales.co.uk