Yn Awst 2025 mae’r Ŵyl Ymylol yn digwydd. Mae’n llwyfan pwysig i arddangos gwaith artistig, darganfod talent newydd ac adeiladu partneriaethau creadigol. Eleni, mae ffocws y Cyngor ar ddatblygu'r sector, archwilio cyfleoedd yn y dyfodol i gydweithio, teithio a chyflwyno a chefnogi unigolion a sefydliadau i gysylltu â gweithwyr yn y diwydiant byd-eang.

Bydd y Cyngor yn rhoi hyd at 15 bwrsariaeth i unigolion a sefydliadau. Bydd yn fodd iddynt fynd i ddigwyddiadau, cyfarfodydd, gweithdai rhwydweithio, Cyswllt yr Ŵyl Ymylol a gweld perfformiadau o safon.

Dywedodd Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau yn y Cyngor:

"Mae Gŵyl Ymylol Caeredin yn ddyddiad arwyddocaol yng nghalendr y celfyddydau byd-eang lle mae llwybrau artistig yn croesi a chysylltiadau sy'n newid gyrfa yn cael eu gwneud. Drwy fwrsariaethau Caeredin 2025, rydym yn buddsoddi yng ngallu artistiaid o Gymru i fod yn bresennol yn y lleoedd pwysig i ymgysylltu'n ystyrlon â rhaglenwyr ac artistiaid rhyngwladol a meithrin y cysylltiadau sy'n arwain at gydweithio yn y dyfodol. Nid yw’n gyfle i fynd i ŵyl fawreddog yn unig - mae'n lleoli lleisiau creadigol o Gymru yn strategol yn rhwydweithiau celfyddydol y byd ac agor llwybrau at gyfleoedd rhyngwladol sydd o fudd i'n holl ecosystem ddiwylliannol."

I gael y gwerth a’r effaith fwyaf o’r fwrsariaeth, bydd y Cyngor yn gweithio gyda Chymdeithas Ymylol Gŵyl Caeredin, y Cyngor Prydeinig a phartneriaid eraill ym Mhrydain a thramor i nodi’r cyfleoedd rhwydweithio gorau. 

Mae'r manylion llawn yma: celf.cymru