Dyddiad cau newydd

Crynodeb o'r Comisiwn

Mae Cyngor Abertawe'n gwahodd ceisiadau gan artistiaid/dylunwyr/penseiri/ymarferwyr creadigol cymwys a phrofiadol i greu celfwaith pwrpasol ac unigryw i dalu teyrnged i'r rheini a effeithiwyd gan bandemig COVID-19 a'u cofio.

Disgrifiad Swydd

Nod y comisiwn yw cynhyrchu celfwaith a fydd yn gweithredu fel cofeb ac fel lleoliad i gofio ac i fyfyrio, yn ogystal â darparu ychwanegiad deniadol ac ystyrlon i fan cyhoeddus, gyda golwg sy'n cyd-fynd â'r amgylchedd.

Yn ogystal, rhaid i'r Gofeb COVID gyflawni'r amcanion canlynol:

  • Arbenigrwydd - creu celfwaith unigryw, boed yn ddau ddimensiwn neu'n dri dimensiwn, yn nodwedd dirluniedig neu'n ddefnyddiol, e.e. seddi, sy'n benodol i'r safle/ymatebol iddo.
  • Ansawdd - mae'r gwaith yn cyfrannu at ansawdd ffisegol yr amgylchedd a phrofiad y rheini sy'n ei ddefnyddio.
  • Ymdeimlad o le - gan ddefnyddio cyfeiriadau lleol allweddol sy'n berthnasol i Abertawe a'i gymunedau.
  • Gellir ei ddylunio, ei gynhyrchu a'i osod o fewn y gyllideb sydd ar gael.

 

Gofynion y swydd

  • Gwreiddioldeb creadigol, ansawdd artistig a phroffesiynoldeb yn eu gwaith
  • Y gallu a'r awydd i weithio ar y cyd fel rhan o'u harfer creadigol, yn benodol fel rhan o dîm prosiect rhyngddisgyblaethol estynedig.
  • Etheg gwaith hunangymhellol, egnïol a rhagweithiol.
  • Dealltwriaeth o faterion cysylltedd a'r heriau sy'n rhan annatod ​​wrth gyflwyno cynlluniau adfywio uchelgeisiol, cynnwys y gymuned a gweithio mewn partneriaeth.
  • Gallu profedig i gyflwyno prosiectau celf parhaol o safon uchel mewn mannau cyhoeddus ar amser ac o fewn cyllideb, gan ddangos ystyriaethau mynediad deallusol, cynnal a chadw a methodoleg adeiladu.
  • Gallu i gwblhau'r comisiwn o fewn yr amserlen arfaethedig.

Y gyllideb ar gyfer y comisiwn yw £75,000 a fydd yn talu'r holl ffioedd a chostau deunyddiau, gwneuthuriad a gosod. Nid yw'r holl ffioedd a chostau'n cynnwys TAW.

Sut i gyflwyno cais

Ar gyfer briff yr artist a manylion ynghylch sut i gyflwyno cais, e-bostiwch: kate.wood@abertawe.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw: 9 Gorfennaf 2024

 

 

 

Dyddiad cau: 09/07/2024