Mae'r cyntaf o chwe pherfformiad newydd gan artistiaid annibynnol yng nghyfres 2024 Volcano The Shape of Things to Come yn archwilio’r hyn sydd y tu hwnt i’n dychymyg o ran ein gobeithion a’n breuddwydion ar gyfer blynyddoedd olaf ein bywydau.
Bydd IS THAT ALL THERE IS? gan CATHERINE ALEXANDER yn cael ei pherfformio yn "Y Cwpwrdd" ym mhencadlys Volcano ar Stryd Fawr Abertawe, rhwng 2 a 4 Mai.
A hwnnw’n rhannol yn berfformiad, ac yn sgwrs, mae IS THAT ALL THERE IS? yn ddarn am ofal cymdeithasol i’r henoed gan weithiwr gofal sydd weithiau’n gweithio yn y theatr. Yn ystod y pandemig, roedd Catherine wedi’i dadrithio â byd y theatr a phenderfynodd ddod yn weithiwr gofal cartref, gan ganfod ymdeimlad newydd o bwrpas ac eglurder o ganlyniad i weithio gyda phobl fregus a ffurfio perthynas â nhw a thosturio wrthyn nhw. Wedi brwydrau hir â gorbryder cronig, ynghyd â phoen di-baid endometriosis, mae hi’n mynd i’r afael â pherfformio o bersbectif gwahanol, gan greu gwaith ar sail ei phrofiad fel gweithiwr gofal, gyda thosturi a chwerthin yn rhan greiddiol ohono.
Roedd CATHERINE ALEXANDER wedi astudio Drama ym Mhrifysgol Manceinion ac wedi hyfforddi yn L'Ecole Jacques Lecoq ym Mharis. Roedd yn Gyfarwyddwr Artistig ar gyfer Quiconque a bu’n gweithio gyda Complicité am dros bum mlynedd ar hugain. Mae hi wedi cyfarwyddo gwaith ar gyfer Secretariat, Opera North, yr Academi Gelf Frenhinol a Pleasance, a bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Symud gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Bristol Old Vic, ac mewn rolau cyfarwyddo ar gyfer y National Theatre a’r Southbank. Yn 2006, enillodd Catherine Wobr Jerwood y Young Vic, am waith ynghylch Amédée, ynghyd â Gwobr Rhyddid Mynegiant Amnesty International yn 2011 am gynhyrchiad a ddyfeisiwyd ganddi o’r enw SOLD.