Mae rhaglen ymchwil arloesol nesaf Culture24, Let’s Get Real (LGR), yn cael ei lansio fel y cynnig cyntaf ar y cyd o dan ein huniad cyffrous â The Audience Agency.

Y tro hwn, bydd LGR yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gall defnyddio digidol ychwanegu gwerth at gynulleidfaoedd, cymunedau a sefydliadau diwylliannol, gan gefnogi newid mewnol cadarnhaol a dyfnhau ymgysylltiad. Bydd y rhaglen hybrid hon yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â'r Sefydliad Diwylliant Digidol newydd ym Mhrifysgol Caerlŷr.

Mae modd cofrestru nawr ar gyfer hyd at 25 o sefydliadau diwylliannol blaengar. Mae cyfranogiad drwy hunan-ariannu ac mae’r costau’n amrywio o £1,250 i £2,650 yn dibynnu ar faint y sefydliad. Mae’r costau’n cynnwys dau berson o bob sefydliad ac maent yn cynnwys gweithdai lluosog, mentora unigol ac arweiniad arbenigol drwy broses o arbrofi wedi’i theilwra i’ch lleoliad chi. Mae hyn i gyd yn digwydd ar draws rhaglen wyth mis mewn cymuned ymarfer gydweithredol, gan ddechrau ym mis Chwefror 2024.

Mae ceisiadau’n cau ar ddydd Iau 11 Ionawr 2024.

Cofrestrwch yma: https://research.audiencesurveys.org/Interview/8ee63980-ec27-41de-9392-773d06c2cf9e

Gallwch gael rhagor o wyboaeth am LGR ar ein gwefan yma: https://www.theaudienceagency.org/events/lets-get-real-using-digital-to-add-value