Rhwng 10.00yb a 12.30yh ar yr 4ydd o Ragfyr

Heol Y Coleg Nantgarw CF15 7QY

Mae digwyddiadau Basecamp Beacons wedi’u cynllunio gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, gyda’r nod o ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y diwydiant cerddoriaeth ledled Cymru. Yn y digwyddiad yma, byddwch yn cwrdd ag arwyr presennol diwydiant cerddoriaeth RCT, yn cysylltu â phobl ifanc eraill o’r un meddylfryd, ac yn datgloi gwybodaeth gyffrous a chyfleoedd newydd i helpu creu eich gyrfa greadigol.

Cofrestrwch a dewch draw i Coleg y Cymoed rhwng 10.00yb a 12.30yh ar yr 4ydd o Ragfyr i gael profiad law gyntaf yng diwydiant cerddoriaeth, cysylltu â phobl o’r un meddylfryd, yn ogystal â dysgu gan gyfres o weithwyr proffesiynol cyffrous o’r diwydiant cerddoriaeth sy’n gweithio o fewn a thu allan i ranbarth RCT.Mae’r siaradwyr yn cynnwys:

BBC Horizons Cymru, Otto Aday, Molly Palmer (DJ / BBC Radio Wales), RightKeysOnly, Beacons Cymru

Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.