Rhwng 1.30yh a 4.00yh ar yr 30ydd o Tachwedd

Crosskeys campus Newport NP11 7ZA

Mae digwyddiadau Basecamp Beacons wedi’u cynllunio gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, gyda’r nod o ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y diwydiant cerddoriaeth ledled Cymru. Yn y digwyddiad yma, byddwch yn cwrdd ag arwyr presennol diwydiant cerddoriaeth Gwent, yn cysylltu â phobl ifanc eraill o’r un meddylfryd, ac yn datgloi gwybodaeth gyffrous a chyfleoedd newydd i helpu creu eich gyrfa greadigol.

Cofrestrwch a dewch draw i Coleg yGwent rhwng 1.30yh a 4.00yh ar yr 30ydd o

Tachwedd i gael profiad law gyntaf yng diwydiant cerddoriaeth, cysylltu â phobl o’r un meddylfryd, yn ogystal â dysgu gan gyfres o weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yn gweithio o fewn a thu allan i ranbarth Gwent.Mae’r siaradwyr yn cynnwys:

Danni Diston (BBC Radio 1), Simon Parton (BBC Horizons), Alexandra Jones (Porter’s Presents / Beacons Cymru), Lewis Jones (Beacons Cymru / Valley’s Events), Yasmine Davies (USW / Beacons Cymru)

Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.