Ballet Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyflwyno noson ddisglair o'r dawnsio gorau

Dydd Gwener 3 a dydd Sadwrn 4 Tachwedd 2023, 7.30pm

Theatr Glan yr Afon, Casnewydd

Cliciwch yma i archebu tocynnau

 

TIR

Coreograffi gan Darius James OBE ac Amy Doughty

Cerddoriaeth gan Cerys Matthews MBE

Albwm eiconig Cerys Matthews o Gerddoriaeth Werin o Gymru yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer TIR, ac mae'r coreograffwyr Darius James OBE ac Amy Doughty wedi defnyddio 11 o ganeuon o'r albwm i greu gwaith unigryw, yn arbennig i ddawnswyr Ballet Cymru.

Gyda cherddoriaeth yn cael ei pherfformio'n fyw gan Cerys Matthews MBE ac Arun Ghosh!

TIR © cerysmatthews.co.uk

TWENTY TALES

Coreograffi gan Mario Bermúdez Gil

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn darparu cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o’r radd flaenaf i rai o ddawnswyr ifanc mwyaf dawnus Cymru. Mae’n tynnu ar egni a chyffro brwdfrydedd pobl ifanc ynghylch dawns a dawnsio, ac yn sianelu hynny i fod yn rym creadigol, cyfoes sy’n dathlu'r dawnsio gorau ymhlith ieuenctid yng Nghymru heddiw. www.nydw.org.uk

LLIF O YMWYBYDDIAETH

Coreograffi gan by Marcus Jarrell Willis

Mae Coreograffydd Preswyl Ballet Cymru, Marcus J Willis, yn ailddychmygu ei waith coreograffig, Stream of Consciousness, ar gyfer y llwyfan, gwaith a gafodd ei berfformio gyntaf gan Ailey II yn 2016. Mae Stream of Consciousness yn rhoi bywyd corfforol i'n meddyliau mewnol. Wedi'i osod i ailgread cyfoes Max Richter o’r Pedwar Tymor gan Vivaldi, mae'r gwaith hwn yn atsain tensiwn a dwyster tonnau cyfnewidiol y gerddoriaeth.

Yn ychwanegol at y thema hon, daw Willis hefyd â'i greadigaeth solo clodwiw, Beyond Reach, i repertoire Ballet Cymru. Mae'r unawd oesol hwn, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 15, yn cipio moment o fyfyrdod, sy'n cynrychioli'r daith barhaus trwy fywyd unigolyn.

Bydd TIR a Stream of Consciousness hefyd yn cael eu perfformio yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug ar 13 ac 14 Hydref ac yn Pontio, Bangor ar 30 Tachwedd fel Dau Ddarn. Ewch i wefan y lleoliad i gael rhagor o fanylion.

Cydgynhyrchiad gan Ballet Cymru, Theatr Glan yr Afon

© Siân Trenberth