Mae cynhyrchiad Bale Gŵyl Aberhonddu o The Nutcracker, y bale Nadolig tra enwog, yn dychwelyd yn llawen i’r llwyfan unwaith eto, gyda cherddoriaeth enwog Tchaikovsky yn cael ei chwarae’n fyw gan Gerddorfa Bale Gŵyl Aberhonddu a thros 80 o ddawnswyr ar y llwyfan! Mae aelodau o'r gymuned leol yn ymuno â dawnswyr a cherddorion proffesiynol ar y llwyfan mewn rolau plant ac actorion. O'r 160 o bobl sy'n rhan o'r cast a thu ôl i'r llenni, mae 140 yn dod o Gymru, sy'n golygu mai hwn yw un o'r cynulliadau blynyddol mwyaf o gyfranogwyr celfyddydau Cymreig yn y Canolbarth. Cynhelir perfformiadau yn Theatr Brycheiniog, Rhagfyr 15fed – 17eg. Gweler www.breconfestivalballet.com am ragor o wybodaeth a https://www.brycheiniog.co.uk/cy/whats-on am docynnau. Diwrnod allan Nadoligaidd perffaith i'r teulu cyfan!