Mae gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen hanes balch o 76 mlynedd o ddod â chymunedau byd-eang ynghyd trwy gerddoriaeth, dawns a chreadigrwydd i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth. Mae'r Eisteddfod yn cael ei chydnabod fel un o wyliau mwyaf blaenllaw'r byd ac mae hyd yn oed wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel. Dros y blynyddoedd mae wedi denu eiconau diwylliannol gan gynnwys Dylan Thomas, y Fonesig Shirley Bassey a Luciano Pavarotti. Yn 2024, diolch i gydweithrediad newydd gyda Cuffe & Taylor, bydd ein cyngherddau gyda'r nos yn ymestyn dros bedair wythnos gan gynnwys Manic Street Preachers a Suede yn ogystal â Paloma Faith ac mae mwy o gyngherddau i'w cyhoeddi.
Rydym bellach yn chwilio am Gyfarwyddwr Artistig llawrydd a fydd yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Cynhyrchu a'r Rhaglennydd, y tîm staff, y Pwyllgorau, y Bwrdd a gwirfoddolwyr i gyflwyno Eisteddfod sy'n gyffrous, arloesol ac yn adlewyrchiad o'n cenhadaeth i greu heddwch rhyngwladol. Bydd dyletswyddau allweddol y Cyfarwyddwr Artistig fel a ganlyn:
-
Gweithio gyda staff a gwirfoddolwyr i oruchwylio'r rhaglen yn ystod y dydd gan gynnwys y rhaglen artistig ar gyfer y Maes drwy gydol yr wythnos. Dylai'r rhaglen hon greu profiadau bythgofiadwy o'n dyddiau ysgolion a ieuenctid yn ogystal â rhaglenni apelgar ac amrywiol i'r cyhoedd yn gyffredinol sy'n mynychu'r Eisteddfod.
-
Gweithio gyda'r Rheolwr Cynhyrchu a'r Rhaglennydd i gwblhau'r rhaglen cyngherddau gyda'r nos, gan gynnwys Cyngerdd Heddwch
-
Gweithio gyda thîm yr Eisteddfod i wneud y gorau o effaith a chyrhaeddiad y grwpiau rhyngwladol sy'n ymweld a hefyd i sicrhau eu bod yn elwa o amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol yn ystod eu harhosiad
-
Gweithio gyda thîm yr Eisteddfod i gyflwyno rhaglen gystadlu sy'n gyffrous ac yn ddeniadol i ystod eang o gystadleuwyr ac sy'n denu perfformwyr o bob cwr o'r byd
-
Adeiladu ar ein partneriaethau â sefydliadau diwylliannol eraill i gyflawni cynlluniau tymor hir, buddiol i'r ddwy ochr.
-
Datblygu ymyriadau artistig sy'n helpu i wreiddio'r Eisteddfod yn ein cymunedau drwy gydol y flwyddyn. Mae gennym gyllideb gyfyngedig felly dylid datblygu'r ymyriadau hyn gyda chyllid grant neu gyfleoedd nawdd mewn golwg.
-
Gweithio gyda thîm yr Eisteddfod i ddechrau llunio'r rhaglen ar gyfer 2025
-
Ysgrifennu adroddiad cloriannu ar ôl gŵyl 2024 gan gynnwys argymhellion ar gyfer y blynyddoedd i ddod a chrynhoad o'r sefyllfa bresennol gyda phob un o'n sefydliadau partner.
Y tâl am y gwaith hwn fydd £300 y dydd am 66 diwrnod, i'w weithio tan ddiwedd y contract ar 1 Hydref 2024. Bydd disgwyl i'r mwyafrif o ddiwrnodau gwaith fod cyn yr Eisteddfod ym mis Gorffennaf a bydd disgwyl i'r Cyfarwyddwr Artistig fod ar y safle drwy gydol yr ŵyl. Mae costau teithio a llety yn cael eu cynnwys o fewn y tâl dyddiol.
Bydd y Bwrdd yn croesawu awgrymiadau amgen i'r strwythur taliadau uchod a chynigion ar gyfer ffyrdd arloesol o weithio.
I wneud cais, rhowch eich CV ac amlinelliad x uchafswm o dri tudalen A4 o pam mae gennych ddiddordeb yn y gwaith a'ch meddyliau cychwynnol ar sut y byddech yn cael effaith ar yr Eisteddfod. Fel arall gallwch, yn gyfochrog â'ch CV, gyflwyno fideo o hyd at 15 munud. Rhaid derbyn pob cais erbyn 5pm ddydd Mawrth 14 Tachwedd.
Os hoffech siarad â'r Rheolwr Gweithrediadau neu'r Cadeirydd am y cyfle hwn, cysylltwch â info@llangollen.net
Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am ariannu'r swydd hon.