Artistiaid preswyl ar-lein - Dyddiad cau dydd Gwener 16 o Chwefror

Mae ArcadeCampfa yn falch o gyflwyno dau gyfle preswyl ar-lein . ‘Dyn ni’n gwahodd artistiaid gyda diddordeb mewn dangos neu ddatblygu gwaith ar gyfery gofod ar-lein i ymgeisio ar gyfer y preswyliadau fydd yn para pythefnos – pedair wythnos.

Mae’r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy’n byw neu sydd â chysylltiad cryf â Chymru. Rydym yn estyn croeso arbennig i’r rheiny sy’n wynebu rhwystrau mynediad i’r celfyddydau o ganlyniad i sefyllfaoedd economeg neu gymdeithasol.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan gydweithrediadau. Anfonwch un cais yn amlinellu eich diddordeb.

Bu preswyliadau'r gorffennol yn cynnwys ffilm, perfformiad, darlunio, ffrydio byw – unrhyw beth sy’n gweithio â chyd-destun ar-lein. ‘Dyn ni hefyd yn croesawu darnau arbrofol neu waith ar y gweill.

Rydym yn cynnig ffi o £500, cymorth technegol a marchnata.