Rhagarweiniad

Mae'n dda gan Wasanaeth Celfyddydau a Diwylliant RhCT i gyhoeddi ei rhaglen Artist mewn Gwasanaeth newydd.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda Lisa Baxter (The Experience Business) ac adborth gan brosiect CABAN (2023-24), mae'r rhaglen Artist mewn Gwasanaeth yn darparu cyfle i Artist Lleol datblygu ei gwaith creadigol trwy ymgysylltu gyda chymunedau RhCT.

Mae'r cyfle yma ar agor i artistiaid sy'n gweithio mewn unrhyw ffurf gelfyddydol ac ar unrhyw lefel o brofiad. Mae gyda ni ddiddordeb penodol i glywed gan bobl sydd â diddordeb gwirioneddol mewn ymgysylltu â'r cymunedau. Mae'n ddymunol bod gan yr artist profiad blaenorol, ond dydy profiad ddim yn hanfodol.

Yn bwysicach fyth, dydyn ni ddim yn disgwyl i'r gweithgarwch arwain at gynhyrchiad o waith artistig gwreiddiol. Hefyd, does gyda ni ddim diddordeb mewn cyfres o weithdai rhyngweithiol. Ond, rydyn ni'n chwilio am rywun sydd yn mynd i ymgysylltu'n ystyrlon gyda chymunedau trwy ei waith artistig. Bydd y canfyddiadau sy'n dod o'r gwaith yma'n cefnogi rhaglenni'r dyfodol.

Mae'r rôl newydd yma'n bosibl o ganlyniad i gymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni'n disgwyl i'r rhaglen fod yn dreigl bob 3 blynedd gyda chyfle i nifer o artistiaid ymgysylltu dros adeg y cyfnod ariannu. Yn y cam cyntaf hwn bydd ffocws daearyddol penodol ar Dreorci a'r ardaloedd cyfagos (Blaenrhondda, Blaen-cwm, Treherbert, Cwm-parc, Pentre). Does dim rhaid i chi fod yn breswylydd yn yr ardaloedd yma i ymgeisio, a bydd rolau'r dyfodol yn canolbwyntio ar leoliadau eraill yn RhCT.

Yn fyr, mae'r rhaglen yma'n gyfle i artist wneud tri pheth:

  • Ymgysylltu gyda chymunedau yn Nhreorci.
  • Datblygu ei arfer artistig.
  • Cefnogi cynllunio a rhaglenni Gwasanaeth Celfyddydol a Diwylliannol RhCT.

Fel y soniwyd uchod, dyma fenter newydd ac mae cwmpas a'r potensial i siapio'r rôl yn sylweddol. 

 

Manylion y Contract

Ffi: £15,000* (yn seiliedig ar 60 diwrnod ar £250 y diwrnod)

*Caiff y ffi yma ei thalu'n uniongyrchol i'r artist. Dydyn ni ddim yn disgwyl iddi gyllido costau'r prosiect. Mae cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer offer/defnyddiau.

Dyddiadau: 1 Hydef 2024 – 31 Mawrth 2025

Math o gytundeb: Llawrydd

Lleoliad: Bydd swyddfa'r rôl yma yn Theatr Y Parc a Dâr yn Nhreorci (Theatrau RhCT) ac yn cynnwys gwaith mewn mannau ledled Cwm Rhondda. Dyw'r swydd ddim yn un ar gyfer gweithio o bell.

 

Cyflwyno Cais

Er mwyn ymgeisio, e-bostiwch gopi o'ch CV i diwydiannaucreadigol@rctcbc.gov.uk gyda dolenni i'ch gwaith blaenorol a llythyr cais sy'n esbonio'ch diddordeb yn y rôl (dim mwy nag un ochr A4). 

Dyddiad cau: 31/07/24

Mae'r cyfle yma ar gael i artistiaid sydd wedi'u lleoli yn RhCT ar hyn o bryd yn unig. Mae croeso i chi wneud cais yn y Gymraeg neu Saesneg. Hoffech chi gyflwyno cais dros fideo? Cysylltwch â ni ymlaen llaw.

Dyddiad cau: 31/07/2024