Briff i’r artist:
Dyddiadau: Mai – Medi
20 o ddiwrnodau (1 diwrnod yr wythnos)
Cyfrwng: Celf weledol
Lleoliad: Canolfan Ganser Felindre
Adran: Radioleg
Ffi: £4,999 (£250 y dydd)
Cyllideb ar gyfer deunyddiau: £2,000
Cyflwyniad:
Mae Canolfan Ganser Felindre’n chwilio am artist llawn dychymyg a chymhelliant i fod yn artist preswyl yn ein hadran radioleg.
Mae Canolfan Ganser Felindre’n darparu gwasanaethau canser arbenigol i 1.5 miliwn a mwy o bobl yn ne-ddwyrain Cymru a’r tu hwnt. Mae’n darparu radiotherapi, cemotherapi a thriniaeth anllawfeddygol, yn ogystal ag ymchwil flaengar i ganser. Mae hyn i gyd yn achub bywydau bob dydd.
Nod rhaglen y Celfyddydau mewn Iechyd yn Felindre yw dod â’r celfyddydau a chreadigrwydd i’r ysbyty gyda rhaglen amrywiol o brosiectau i bobl gymryd rhan ynddynt ar y safle a’r tu hwnt iddo. Rydym yn awyddus i ehangu ar y gwaith hwn gan fod mwyfwy o dystiolaeth fod y celfyddydau mewn ysbytai’n gwella iechyd meddwl, gwydnwch, cymorth cymdeithasol a sgiliau cyfathrebu pobl gyda chanser.
Lleoliad:
Canolfan Ganser Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Y prosiect:
Bydd y cyfnod preswyl yn yr Adran Radioleg. Radioleg yw’r defnydd o ddelweddu meddygol i ganfod afiechydon ac i lywio’r driniaeth ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys:
- Radiograffeg gyffredinol (radiograffeg ddigidol)
- Tomograffeg gyfrifiadurol (sganio CT)
- Delweddu cyseinedd magnetig (sganio MRI)
- Sganio uwchsain
Fflwrosgopi (delweddu ymyriadol anfasgwlaidd mewn amser real)
Yn ystod y cyfnod preswyl, byddwch yn gweithio gyda chleifion a staff radioleg, gan ddefnyddio eich arfer artistaidd i ymateb yn greadigol i’r adran. Y nod yw dod yn rhan annatod o raglen y celfyddydau mewn iechyd yn Felindre a’r calendr o weithgareddau creadigol ym mhob rhan o’r ysbyty.
Bydd disgwyl i chi wneud y canlynol:
- Darparu o leiaf bedwar gweithdy i staff a chleifion gymryd rhan ynddynt
- Cynnal ‘stiwdios agored’ lle byddwch yn arddangos eich gwaith
- Creu canlyniadau diriaethol sy’n deillio o’r cyfnod preswyl – gan gynnwys celfwaith i’w ddangos yn yr adran
- Creu adroddiad ysgrifenedig sy’n gwerthuso eich cyfnod preswyl
Cyllid:
Bydd artistiaid preswyl yn cael ffi sefydlog o £4,999, sy’n cynnwys holl gostau trafnidiaeth, amser paratoi a chyflwyniadau cyhoeddus yn ystod y cyfnod preswyl. Byddwn yn talu’r ffi ar ffurf dau randaliad yn erbyn talebau’r artist: daw’r cyntaf ar ddechrau’r cyfnod preswyl a’r ail ar ddiwedd y cyfnod preswyl, gan gynnwys unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus.
Bydd cyllideb gwerth £2,000 ar gyfer deunyddiau hefyd.
Bydd angen:
- Gwiriad DBS llawn
- Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
- Dealltwriaeth dda o’r celfyddydau mewn iechyd a sut i gynnal prosiect ar y cyd ym maes y celfyddydau
- Dwy flynedd o brofiad o weithio ym maes gofal iechyd a gyda chleifion
Os ydy’r cynnig hwn yn eich cyffroi neu os oes ragor o gwestiynau, byddai’n braf clywed gennych! Anfonwch glawrlythyr sy’n esbonio’ch cynnig ar gyfer y cyfnod preswyl a chopi o’ch CV, yn ogystal â phum llun o’ch gwaith at sally.thelwell@wales.nhs.uk.
Rhaid mynegi eich diddordeb erbyn 4pm ddydd Gwener 21 Mawrth. Ar ôl hynny, byddwn yn creu rhestr fer o’r ceisiadau ac yn gwahodd ymgeiswyr am gyfweliad ddydd Mawrth 8 Ebrill.
Edrychwn ymlaen yn fawr at glywed gennych.