Gyda’r partner cyflwyno, Sefydliad Bagri, mae Artes Mundi 10 (AM10), prif arddangosfa’r DU bob dwy flynedd a gwobr gelf gyfoes ryngwladol, wedi lansio ei degfed arddangosfa. Am y tro cyntaf bydd gwaith yn cael ei gyflwyno mewn pum lleoliad partner yng Nghymru. Bydd AM10 yn cynnwys saith artist gweledol cyfoes rhyngwladol ac mae’n cael ei gynnal rhwng 20 Hydref 2023 a 25 Chwefror 2024. Bydd enillydd Gwobr nodedig Artes Mundi, sy’n werth £40,000 – gwobr celf gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod arddangos.  

Yn AM10 bydd pob artist yn cyflwyno prosiect unigol mawr, gan gynnwys cynyrchiadau newydd, gwaith nas gwelwyd o’r blaen a llawer o waith nas gwelwyd yn y DU o’r blaen. Mae rhai artistiaid yn cyflwyno ar draws nifer o leoliadau, a bydd gan bob artist waith mewn lleoliad yng Nghaerdydd.  

Dyma leoliadau arddangos yr artistiaid ar gyfer AM10: Mounira Al Solh, Rushdi Anwar ac Alia Farid yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd (un yn nheulu Amgueddfa Cymru – Museum Wales o amgueddfeydd); Nguyễn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd; Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd; Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd; a Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd.  

Dywedodd Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: “Rydyn ni mor falch ein bod yn cael cyflwyno ac ysgogi cyfres gyffrous a meddylgar o gyflwyniadau ar gyfer AM10. Gan weithio gyda phob artist a’n partneriaid yn y lleoliadau, rydyn ni wedi gallu cyflwyno cyfres o sioeau treiddgar sydd gyda’i gilydd yn edrych ar agweddau ar ddefnydd tir, tiriogaeth a dadleoliad drwy hanes newid amgylcheddol, gwrthdaro a mudo dan orfod, amodau sydd i gyd â rhywbeth i’w ddweud wrth bob un ohonom ni heddiw.”  

Dywedodd Dawn Bowden Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi degfed arddangosfa Artes Mundi a mynd â’r arddangosfa ar draws Cymru am y tro cyntaf ac y bydd yn cael ei chyflwyno mewn pum lleoliad ar hyd a lled y wlad yng Nghaerdydd, Abertawe, y Drenewydd a Llandudno. Mae’r digwyddiad yn llwyfan cyffrous sy’n dod ag artistiaid rhyngwladol at gymunedau a chynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.” 

Fel cyfrwng cyfnewid diwylliannol pwysig rhwng y DU a chymunedau rhyngwladol, mae Artes Mundi wedi ennill enw iddo’i hun am ddwyn ynghyd gelfyddyd gan rai o’r lleisiau artistig mwyaf perthnasol sy’n ymdrin â phynciau mawr ein hoes. Yn y gorffennol, mae Artes Mundi wedi gweithio gydag artistiaid yn ystod cyfnodau allweddol yn eu gyrfaoedd, a dyma’n aml y tro cyntaf iddynt gyflwyno’u gwaith i gynulleidfaoedd yn y DU, gyda llawer ohonynt bellach yn enwau cyfarwydd ar y llwyfan rhyngwladol, gan gynnwys Dineo Seshee Bopape, Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Theaster Gates, John Akomfrah, Teresa Margolles, Xu Bing, a Tania Bruguera.