Y perfformiad olaf yn The Shape of Things to Come (tymor blynyddol Volcano o berfformiadau gwreiddiol byr gan wneuthurwyr theatr llawrydd) yw Juiced to Death gan Joanna Simpkins, 12 - 14 Mehefin.

Mae Juiced to Death yn ymwneud â beth mae'n ei olygu i heneiddio, fel menyw yn 2025. Mae'r gynulleidfa'n ymuno â pharti pen-blwydd gwallgof 40 oed menyw sy'n ymladd yn ddiwyd yn erbyn y cloc. Wedi'i hamgylchynu gan gylchgronau, yn cymysgu smwddis spirulina, ac o dan warchae gan algorithmau hysbysebu, mae hi'n dechrau gwrthsefyll Y Rhaglen...

Mae Joanna yn actores o gefndir dosbarth gweithiol yn Hull yn Swydd Efrog, a hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei gwaith yn cwmpasu dramâu cyfoes, drama glasurol a theatr gorfforol. Mae hi wedi gweithio gyda llawer o gwmnïau adnabyddus ond mae hi'n edrych ymlaen at berfformio darn yn ei llais ei hun ac o'i phrofiad byw ei hun.

Mae pob un o'r pum sioe yn y gyfres gyfredol yn cael ei pherfformio yn Yr Ystafell, set a ddyluniwyd gan yr artist o Abertawe, Bourdon Brindille.

Mae The Shape of Things to Come 2025 wedi cynnwys gwaith newydd gan Arnold Matsena, Ryan Samuel Davies, Moana Doll a leon clowes.