Mae’r cwestiynau arweiniol yn y linc hwn wedi codi o’r sesiynau trafod a gynhaliwyd rhwng Chwefror ac Ebrill. Does dim rhaid i chi ateb pob cwestiwn. Hoffwn glywed eich barn a’ch syniadau ar faterion sydd o bwys i chi. Mae croeso i chi ychwanegu testun neu benawdau
Cliciwch y ddolen yma:
https://tellus.arts.wales/s.asp?k=165123166527
Os hoffech chi ini fynd trwy’r ddogfen ar lafar, neu os hoffech gefnogaeth arall i’w lanw, cysylltwch ag einir.sion@celf.cymru
“Mae perthynas unigolion a sefydliadau gyda’r Gymraeg a’r celfyddydau yn amrywio’n fawr. Mae’r amrywiaeth hwn yn ddealladwy gan fod perthynas cymunedau i gelf, iaith a diwylliant yn benodol iddyn nhw. Ond, mae bylchau mewn darpariaeth hefyd yn cyfrannu at wahaniaeth mewn ymwybyddiaeth ac ymwneud creadigol Cymraeg. Mae angen i ni drafod y bylchau a sut i'w llenwi. Mae hefyd angen i ni adnabod a dathlu yr hyn sydd yn gwneud Cymru’n unigryw a’r celfyddydau arbennig sydd wedi llywio ein ddoe, heddiw a phob yfory. Mae eich barn ar y materion yma yn allweddol i greu strategaeth fyw heriol.”