Dewch i weld arddangosfa newydd Daniel Trivedy, yr artist arobryn o Gymru, sy’n ymateb i gysylltiad trefedigaethol Castell Powis ag India.

24 Chwefror – 31 Mai 2024

Bydd y neuadd ddawns wrth ymyl Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis yn gartref i arddangosfa newydd rhwng 24 Chwefror a diwedd y gwanwyn. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfres o ddelweddau ffotograffig, fideo o berfformiad a ffilmiwyd y tu mewn i’r castell ac o amgylch y tiroedd fis Medi diwethaf, a ffilm o gyfweliad gyda’r artist.

Yn yr arddangosfa hefyd ceir ymateb barddol gan Lauren Craig lle mae’n dadansoddi’r ystyron dyfnach sydd wrth wraidd perfformiad yr artist.

Mae’r teigr yn fotiff pwerus, gan greu cysylltiad â hunaniaeth yr artist fel unigolyn o dras Indiaidd, a chyfeirir yn uniongyrchol at wrthrychau yng Nghasgliad De Asia Castell Powis. Yn ystod y cyfnod y bu Prydain yn trefedigaethu India, datganwyd bod teigrod yn fermin, gan arwain at ddirywiad mawr yn eu niferoedd.

Mae gwaith Daniel yn ymyrraeth gadarnhaol a chwareus. Mae’r arddangosfa’n cyd-fynd ag ailddehongliad yr artist o Gastell Powis fel safle posibl ar gyfer dysg a chydlyniant cymdeithasol. Mae Teigr yn y Castell yn brosiect cydweithredol rhwng Artes Mundi, y sefydliad celfyddydau gweledol blaenllaw a rhyngwladol o Gymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’r artist.

Fel arfer, bydd y neuadd ddawns ac Amgueddfa Clive ar agor rhwng 11am a 4pm bob diwrnod. Cyn ymweld, gwiriwch nad yw’r oriau agor wedi newid. Sylwer: rhaid dringo grisiau i fynd i mewn i’r neuadd ddawns a’r amgueddfa. Er mwyn sicrhau y bydd modd i bawb weld yr arddangosfa, bydd cyfrifiadur llechen electronig ar gael ar y llawr gwaelod, y gellir ei ddefnyddio i weld fersiwn ddigidol o’r ffotograffau.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

  • Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd rhwng dydd Sadwrn 24 Chwefror a dydd Gwener 31 Mai.
  • Gallwch weld yr arddangosfa yn y neuadd ddawns rhwng 11am a 4pm. Mynediad olaf am 3.30pm.
  • Does dim angen talu mwy i weld yr arddangosfa, ond mae’r costau mynediad arferol yn berthnasol.
  • Does dim angen cadw lle ymlaen llaw.
  • Os ydych chi’n bwriadu ymweld fel grŵp mawr, e-bostiwch powiscastle@nationaltrust.org.uk i drefnu ymlaen llaw.

Credyd delwedd: Un o'r ffotograffau o’r arddangosfa 'Teigr yn y Castell' gan yr artist Daniel Trivedy yng Nghastell a Gardd Powis. | © Dafydd Williams