Mae Agored 2024 yn cynnig cyfle i unrhyw un – boed yn artist proffesiynol, yn fyfyriwr neu berson sy’n creu celf fel diddordeb i ymgeisio i fod yn rhan o arddangosfa flynyddol yn Galeri. 

Mae gwobrau ariannol hael ar gael: 

£1,000 dewis y beirniaid 

£400 cymeradwyaeth uchel

£250 dewis y bobl

Cost ymgeisio:

£10 (drwy paypal – i’w dalu drwy’r ffurflen gofrestru)

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:

23:59 Dydd Llun, 09.09.24

Dyddiad yr arddangosfa yn Galeri:

30/11/24 - 01/02/25

Plîs cysylltwch os oes angen cymorth i ymgeisio neu agen holi cwestiwn trwy e-bostio agored@galericaernarfon.comneu ffonio 01286 685208.

Dyddiad cau: 09/09/2024