Sut mae prosiect ymchwil a datblygu wedi dogfennu, gwerthuso ac adlewyrchu wrth gydweithio â bobol creadigol a chymunedau, ac wedi gwneud galwad i adolygu’r gwaith yn greadigol. Hyn oll wrth beidio cael eu llywio gan dargedau ac allbynnau penodol ar ddechrau’r prosiect.
Mae Dyffryn Dyfodol wedi bod yn dogfennu gweithgaredd y prosiect ers y cychwyn, dros dair mlynedd yn nôl, mae na lot o ddata! Dydan ni ddim yn wyddonwyr na gwerthuswyr proffesiynnol, rydan ni wedi adnabod elfennau pwysig y prosiect a’r ffordd gwahanol o weithio ac wedi bod yn rhannu dysgu ac adlewyrchu ar hyd y daith.
Bydd y sesiwn yn gyfle i rannu’r ffyrdd rydan ni wedi bod yn rhedeg y prosiect, yn treialu dulliau gwahanol o weithio lle mae’n iawn i bethau godi, i ni beidio gosod targedau gwerthuso ar y dechrau, a dal bod hefo llwyth o wybodaeth i rannu am y prosiect.
Gyda:
- Gweni Llwyd, Ymarferydd Creadigol
- Jany Parry, Ymarferydd Creadigol
- Katie Trent, Cynhyrchydd Creadigol
- Iwan Williams, Cynhyrchydd Creadigol
Ar-lein Dydd Iau 13 Mehefin 2024 (11:30 - 13:00), byddwn yn archwilio’r prosiect ymchwil a datblygu creadigol Dyffryn Dyfodol yn Nyffryn Conwy, gan rannu’r hyn a ddysgwyd, ein prosesau a ffyrdd o weithio gyda phobl greadigol sydd wedi bod yn rhan o’r broses o werthuso ac adlewyrchu.