Archwilio sut mae prosiect ymchwil a datblygu wedi cydweithio â phobl greadigol a chymunedau i ddatblygu syniadau a gweithgareddau heb gael eu llywio gan dargedau, allbynnau a chanlyniadau.
Gwnaeth Dyffryn Dyfodol alwad agored am bobl greadigol, gan wahodd sgyrsiau cyn ceisiadau, syniadau nid CVs, comisiynu heb unrhyw allbynnau penodol, a buddsoddi amser mewn rhannu a dysgu gyda’n gilydd.
Ar-lein Dydd Iau 9 Mai 11eg 2024 (11:30 - 13:00), byddwn yn archwilio’r prosiect ymchwil a datblygu creadigol Dyffryn Dyfodol yn Nyffryn Conwy, gan rannu’r hyn a ddysgwyd, ein prosesau a ffyrdd o weithio gyda phobl greadigol oedd yn cynnwys rhannu, dysgu a chefnogi’n gilydd, yn ogystal â pethau’n codi na allem fod wedi'u rhagweld ymlaen llaw.
Mae Dyffryn Dyfodol yn bartneriaeth rhwng Ffiwsar, sefydliad cynhyrchu creadigol yn Llanrwst, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy, sefydliad tai cymdeithasol. Cafodd ei ariannu yn bennaf drwy gynllun Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfydyddydau Cymru.
Cadwch eich lle am ddim: