Mae'n bleser gennym gyhoeddi mai ein prif gynhyrchiad teithiol ar gyfer 2024 fydd 'Romeo a Juliet', a fydd yn cael ei berfformio mewn theatrau ledled Cymru a'r DU, gyda'r perfformiad cyntaf yn cael ei gynnal yn Theatr Glan yr Afon Casnewydd ddydd Gwener 31 Mai a dydd Sadwrn 1 Mehefin.

Mae Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill Gwobr y Critics' Circle,  yn cyflwyno addasiad eithriadol o gampwaith Shakespeare "Romeo a Juliet".

Mae ymladd dwys, deuawdau angerddol a themâu oesol yn atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae gwisgoedd cywrain a thafluniadau fideo neilltuol yn creu byd o berygl a chyffro, lle caiff dau gariad ifanc eu dal mewn hen elyniaeth.

Mae "Romeo a Juliet" yn cynnwys coreograffi gan Gyfarwyddwyr y cwmni, Darius James OBE ac Amy Doughty, a gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel ) sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd, gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre.

Enillodd y cynhyrchiad hwn Wobr Theatr Cymru am y Cynhyrchiad Dawns Gorau Ar Raddfa Fawr, ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ein haddasiad ballet o’r clasur hwn gan Shakespeare unwaith eto.

Yn 2024 bydd Ballet Cymru yn cynnig perfformiadau hammdenol a disgrifiadau sain mewn lleoliadau dethol.

Archebwch 'nawr i weld y cynhyrchiad arobryn hwn!

CLICIWCH YMA  I WELD DDYDDIADAU'R DAITH AC I ARCHEBU TOCYNNAU

CLICIWCH YMA AM I GAEL RHAGOR O WYBODAETH AM Y CYNHYRCHIAD

Ffotograffiaeth: Sleepy Robot Photography