Mi fydd penblwydd 20 mlynedd Gwobrau J. M. Barrie yn digwydd ym mis Tachwedd yn Theatr Tywysog Cymru yn Llundain, ac mae Taking Flight yn falch iawn o gyhoeddi ymlaen llaw bod eu Swyddog Cyfranogiad, Mynediad a Chynhwysiant, Steph Bailey-Scott yn un o enillwyr eleni, sydd yn ei gwneud nid yn unig yn dderbynnydd Byddar cyntaf y wobr, ond hefyd yr enillydd cyntaf o Gymru.
Dywed Vicky Ireland MBE, Llysgennad a Sylfaenydd Celfyddydau Gweithredu dros Blant, ‘Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn anrhydedd i’n helusen gydnabod cyfraniad cymaint o artistiaid i blant gwych gyda'n Gwobrau J.M Barrie unigryw. A chyda balchder mawr rydym yn anrhydeddu'r enillwyr eleni – tri artist eithriadol y mae eu gwaith ysbrydoledig yn profi grym trawsnewidiol y celfyddydau ac addysg ddiwylliannol, wrth feithrin creadigrwydd, celfyddyd, dychymyg ac empathi ym mywydau plant ein cenedl.”
Mae Stephanie Bailey-Scott o Taking Flight – actores, gwneuthurwr theatr ac arweinydd gweithdai – wedi ennill y Wobr Addysg, sy’n cydnabod unigolion am eu cyfraniadau uniongyrchol i addysg a mentoriaeth plant yn y celfyddydau, gan ddangos eu hymrwymiad i fynd gam ymhellach ar gyfer eu cymunedau a meithrin angerdd gydol oes dros y celfyddydau.
Mae Stephanie yn Swyddog Cyfranogiad, Mynediad a Chynhwysiant yng nghwmni theatr Taking Flight, lle mae’n gweithio i gysylltu pobl ifanc Byddar gyda modelau rôl Byddar o ddiwylliannau a phrofiadau amrywiol, gan gynyddu eu hyder, ehangu eu rhwydweithiau, a'u cynorthwyo i adeiladu dyfodol yn y celfyddydau a thu hwnt. Mae Taking Flight yn creu cynyrchiadau theatr beiddgar, anarferol gyda pherfformwyr nad ydynt yn anabl, a pherfformwyr Byddar, anabl, a niwroamrywiol.
Mae Stephanie hefyd yn arwain Theatr Ieuenctid Taking Flight (yr unig gwmni theatr ieuenctid Cymru ar gyfer pobl Fyddar a thrwm eu clyw), cwmni y mae hi’n hynod falch ohono. Mae Steph ei hun yn Fyddar ac yn anabl, ac yn enwog hefyd am ei ffyn cerdded chwaethus!
Bydd yr awdur a’r darlunydd arobryn Michael Forman OBE, RDI yn derbyn y Wobr Cyflawniad Oes am ei gyfraniad i gelfyddydau plant, ar draws ei yrfa doreithiog yn creu dros 250 o lyfrau naill ai fel darlunydd, awdur neu’r ddau. Mae wedi cydweithio â Michael Morpurgo a Terry Jones, ac wedi darlunio gwaith awduron mor amrywiol â Shakespeare, J.M. Barrie, a'r Brodyr Grimm, ac ef yw awdur a darlunydd y clasuron i blant War Boy a War Game.
Mae enillwyr blaenorol Gwobr Cyflawniad Oes Action for Children's Arts wedi cynnwys Malorie Blackman, Jamila Gavin, Syr Philip Pullman CBE, y Farwnes Floella Benjamin DBE, a Syr Quentin Blake.
Bydd Syr Frank Bowling OBE - sy’n cael ei gydnabod fel un o artistiaid Prydeinig mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, a hefyd yr artist du cyntaf i gael ei ethol i Academi Frenhinol y Celfyddydau – yn cael ei gyflwyno â Gwobr Cyfraniad Eithriadol mewn cydnabyddiaeth o'i brosiect Circa Pipeline, a ddatblygwyd i nodi ei ben-blwydd yn 90 oed yn 2024.
Dywed Syr Frank, ‘Nid mater o wneud celf yn unig mo hyn; mae'n ymwneud â sicrhau bod [plant] yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i greu, waeth beth ddigwyddith. Gadewch i ni danio’r tân hwnnw’n gynnar.’
Mae enillwyr blaenorol y wobr yma yn cynnwys Krystyna Budzynska, Cyfarwyddwr yr Primary Royal Academy of Music.