Mae'n bleser gan Oriel Gelf Glynn Vivian gyflwyno'n harddangosfa ar gyfer yr haf, Ar Anifeiliaid: Detholiad o waith o gasgliad yr oriel.

28 Mai 2023 - 24 Medi 2023

Mae'r arddangosfa'n cynnwys gwaith gan dros ddeugain o artistiaid o gasgliad parhaol yr oriel sy'n archwilio'n perthynas unigryw ag anifeiliaid, gan gynnwys gwaith hanesyddol yn ogystal â gwaith gan artistiaid cyfoes. Mae Ar Anifeiliaid yn archwilio bywydau anifeiliaid a'r ffyrdd niferus rydym ni fel bodau dynol yn effeithio arnynt, a sut yr adlewyrchir y perthnasoedd cymhleth hyn mewn amrywiaeth o ffurfiau celf. Mae llawer o'r gweithiau yn yr arddangosfa'n rhai nas gwelwyd o'r blaen ac yn cynnwys paentiadau, darluniau, tecstilau a chrochenwaith.

Darlunnir anifeiliaid mewn celf mewn amrywiaeth o ffyrdd, o fywyd gwledig ac amgylcheddau domestig i fythau a chwedlau. Mae'r celfweithiau yn yr arddangosfa hon yn archwilio'n hagosatrwydd at anifeiliaid a'n pellter oddi wrthynt, o'n perthnasoedd â'n hanifeiliaid domestig i anifeiliaid yn y gwyllt. Rhennir yr arddangosfa'n adrannau sydd i ryw raddau wedi'u seilio ar themâu. Mae'r adran Llên Gwerin, Mythau a Chwedlau yn cynnwys detholiad o waith sy'n cynnwys printiau Japaneaidd gan Utagawa Kuniyoshi a phrintiau leino llawen William Brown o'r anifeiliaid o Ganada a Chymru.Mae'r adran Domestig yn archwilio anifeiliaid fel anifeiliaid anwes, ffrindiau ffyddlon, cymdeithion a phethau i chwarae â nhw. Mae'r adran hon yn cynnwys gwaith gan Evan Walters a thecstil yr artist o Gymru, Anya Paintsil o'i chwaer a'i hoff hwyaden anwes yn ‘Mair at Cylch Meithrin’.

Mae Caethiwed yn thema ganolog yn Mandrills' gan Richard Billingham o'r gyfres ffotograffiaeth a fideo gymhellol Zoo, sy'n cwestiynu'r perthnasoedd rhwng y gynulleidfa gyhoeddus ac anifeiliaid caeth, a pharadocs anifeiliaid sy'n cael eu symud o'u hamgylchedd naturiol yn cael eu cadw'n annaturiol. Mae Gwyllt yn arddangos paentiadau a darluniau o adar ac anifeiliaid yn y gwyllt, gan gynnwys gwaith gan Elizabeth Frink, Ray Howard-Jones a Graham Sutherland.

Mae'r gwaith yn yr arddangosfa hon yn rhychwantu sawl canrif ac yn dangos ein hagwedd newidiol at yr anifeiliaid rydym yn rhannu'r blaned â nhw, a'r ffordd rydym yn eu cynrychioli. Er nad ydyw efallai'n amlwg, mae'r gweithiau hyn yn ymdrin â llawer o bryderon sydd gennym am ofalu am ein planed a datblygu ffyrdd newydd o fyw arni.

Bydd rhaglen lawn o weithgareddau dysgu'n cyd-fynd â'r arddangosfa hon drwy gydol yr haf, gan gynnwys gweithdai, llwybrau am ddim i'r teulu a digwyddiadau. Gweler ein gwefan am fanylion www.glynnvivian.co.uk