Apwyntiwyd Theatr Byd Bach, cwmni a arweinir gan artistiaid yn Aberteifi, i weithio’n agos gyda chymunedau Abergwaun ac Wdig ar gynlluniau i annog canol trefi bywiog.

Bydd Theatr Byd Bach yn helpu i ddylunio a chreu trywydd newydd, neu gyfres o drywyddau ar gyfer y ddwy dref fel rhan o fenter adfywio ehangach a noddir gan Gronfa Gyllid Gyffredin y DU o dan y Rhaglen Hybu Ffyniant Bro.

Y bwriad yw annog canol trefi bywiog, cynnal, cadw a chynyddu nifer y bobl sy’n ymweld er mwyn cefnogi siopau, gostwng y nifer o adeiladau gweigion, creu swyddi a chynyddu’r teimlad o falchder lleol.

Dewiswyd Theatr Byd Bach yn dilyn proses werthuso gystadleuol. Roedd yn cynnwys aelodau o dîm Man Adfywio yng Nghyngor Sir Benfro ac arbenigwraig celfyddyd gyhoeddus allanol, Emma Price o Studio Response o Gaerdydd.

Roedd yna naw ymgeisydd o bob rhan o’r DU.  

Mae’r trywyddau’n gyfle i ddathlu hanes, diwylliant a straeon hynod yr ardal a chreu atyniad deniadol ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Dywedodd y Swyddog Datblygu Adfywio trwy’r Celfyddydau egeneration Arts Development Officer, Ruth Jones: ‘Rydym ni wrth ein boddau fod cwmni cymunedol ei naws, a leolir yng ngorllewin Cymru wedi cyflwyno’r cais gorau ar gyfer y prosiect hwn. Mae Theatr Byd Bach yn artistiaid a pherfformwyr proffesiynol sy’n adnabyddus am eu gwaith gyda digwyddiadau a yrrir gan y gymuned.

‘Mae’r cyfuniad hwn o sgiliau am sicrhau fod y gymuned yn rhan o hyn drwy gydol datblygiad y trywyddau a bydd y canlyniadau yn rhai blaengar ac o ansawdd uchel.’

Arweinir y grŵp creadigol gan hwn gan y cyfarwyddwyr, artistiaid a’r perfformwyr a sylfaenodd y cwmni sef Ann Shrosbree a Bill Hamblett. Byddant yn gweithio gyda Gideon Petersen, artist o Sir Benfro sydd â nifer o flynyddoedd o brofiad ganddo o greu gwaith celf yn y parth cyhoeddus gan ddefnyddio ystod o fetelau.

Enwir Toby Downing a Ben Cramp fel rhan o’r tîm hefyd. Mae’r ddeuawd greadigol hyn yn arbenigo mewn prosiectau chwareus a rhyngweithiol gan ddefnyddio deunydd a uwchgylchir. Bydd elfen ffordd-ganfod ddigidol hefyd yn cael ei ddatblygu gan yr artist digidol ac animeiddio Séan Vicary a hefyd y technolegydd creadigol Steve Knight. David Pepper, cerddor, curadur a thywysydd teithiau cerdded o Abergwaun fydd yn cwblhau’r tîm.

Dywedodd Ann Shrosbee, Cyfarwyddwr Theatr Byd Bach: ‘Rydym ni’n edrych ymlaen at ymwneud gyda phobl o bob oed i greu trywydd sy’n adlewyrchu a mynegi syniadau a gweledigaeth gyfunol y gymuned yn ysblander Abergwaun ac Wdig.’

Bydd y prosiect yn cychwyn gyda sesiynau ymgysylltu cymunedol i gychwyn ar ddydd Mercher 20 Rhagfyr gyda sgwrs gyflwyniadol ‘Dewch i Gwrdd â’r Artistiaid’ yn Theatr Gwaun am 6.30pm. Dilynir hyn gan sesiynau cyd-greu yn Neuadd Tref Abergwaun ar 20 Ionawr i gychwyn ar syniadau ar gyfer y prosiect. Bydd mwy o gyfleoedd ar gyfer grwpiau ac unigolion gwahanol i gymryd rhan.  

Yn Ionawr 2024, gofynnir am geisiadau gan artistiaid o Sir Benfro i ymuno â’r tîm am ddeg diwrnod fel artist sy’n cael ei fentora. Os yw hyn yn apelio atoch, dewch i gwrdd â’r artistiaid i ddysgu mwy.

Cwblheir y trywyddau erbyn Awst 2024 ac fe gânt eu lansio drwy ddigwyddiadau cyhoeddus cymunedol fydd yn dod â phobl ynghyd i ddathlu’r penrhyn hynod hwn.