Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi fod Llywodraeth Cymru wedi apwyntio aelod newydd i'r Cyngor.

Ganed Jacob Gough yn Aberystwyth a dechreuodd ei yrfa yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth fel technegydd. Yn 2007 aeth i Balestina lle roedd yn gwirfoddoli gyda grŵp hawliau dynol a chriwiau ambiwlans. Daeth yn ôl i Aberystwyth am flwyddyn gan roi gorau i’w swydd a symud yn ôl i Balesteina i ymuno â'r Freedom Theatre, corff anllywodraethol yng Ngwersyll Ffoaduriaid Jenin sy'n arbenigo mewn theatr a'r cyfryngau i bobl ifanc. Yn ôl yng Nghymru sefydlodd raglen hyfforddi dechnegol i’r theatr a bu’n rheolwr cynhyrchu ar yr holl gynyrchiadau a’r teithiau tramor.

Yn 2014 enillodd radd Meistr mewn Rheoli Trychinebau. Ar ôl gweithio yn llawrydd i National Theatre Wales, aeth yn  rheolwr cynhyrchu llawn amser yno. Roedd ymhlyg wrth rai o’i sioeau mwyaf cofiadwy gan gynnwys Mametz, City of The Unexpected a The Tide Whisperer. Yno roedd yn magu ei angerdd am gynaliadwyedd a hygyrchedd gan ddatblygu systemau i wella'r ddau.

Yn 2019 aeth yn Gyfarwyddwr Cynhyrchu i Gwfrentri, Dinas Ddiwylliant, gan fynd yn Gyfarwyddwr Gweithredol ac un o’r Uwch Dîm Rheoli am y flwyddyn. Roedd yn arwain cynhyrchu’r ŵyl a’r gwaith cynaliadwyedd.

Ym mis Gorffennaf 2021 aeth yn Gyfarwyddwr Gweithredol i Collective Cymru. Llywodraeth Cymru oedd wedi creu’r  sefydliad yn fel rhan o UNBOXED. Roedd yn bartneriaeth sectorol i gynnig am gomisiynau mawr a’u cyflwyno. Roedd y cynhyrchiad GALWAD wedi digwydd dros 7 diwrnod ym Medi 2022.

Ar ddiwedd GALWAD, roedd wedi sefydlu Ymgynghoriaeth Greadigol a Chynhyrchu o'r enw Deryncoch, mewn nifer o feysydd gan gynnwys systemau gweithredol a chynaliadwyedd. Mae ei gleientiaid presennol yn cynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Diwylliant Leeds a Bradford.

Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru sy'n dewis aelodau'r Cyngor. Caiff yr aelodau eu dewis oherwydd eu harbenigedd a’u profiad o’r celfyddydau yng Nghymru. Mae aelodau fel arfer yn gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd, er y gellir ymestyn hyn am gyfnod arall o dair blynedd.

Mae rhagor o wybodaeth am ein Cyngor ar gael yma: https://celf.cymru/amdanom-ni/ein-sefydliad/cyngor