Dechreuodd Lorna ar ei gyrfa gyda PwC Caerdydd a hithau newydd raddio yn 2003. Yno bu’n canolbwyntio ar archwiliadau yn y sector preifat ac am 3 blynedd aeth ar secondiad i  swyddfa Brisbane hefyd. Yn ôl yng Nghaerdydd, bu'n rheoli a chynyddu’r tîm paratoi cyfrifon newydd. Yn 2014 ymadawodd â PwC i fod yn Arweinydd Strategol gyda’r elusen gydraddoldeb i fenywod, Chwarae Teg. Am 3 blynedd bu’n arwain y tîm cyllid a chorfforaethol. Yn ddiweddar bu’n gweithio ar lefel uwch gyda Heddlu Gwent ac yn Gyfarwyddwr Cyllid yn Amber, cwmni ymgynghori ar faterion sero net.

Bu hefyd yn gwirfoddoli a phwyllgora gan gynnwys:

  • Cadeirydd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen
  • aelod o Bwyllgor Archwilio a Pherygl POBL
  • sefydlu banc bwyd yn ei hardal leol - Griffithstown, Pont-y-pŵl

Mae hefyd yn fam i ddau fachgen yn eu harddegau sy’n dwlu ar bêl-droed. Mae wrth ei bodd yn gwneud ioga, treulio amser gyda theulu a ffrindiau a rhedeg busnes pitsas gyda'i gŵr. 

Roedd y celfyddydau’n bob dim iddi’n blentyn ond pallodd ei hangerdd ar ôl gwneud Lefel A mewn Celf a Serameg. Yn ddiweddar bu’n ailgydio yn ei gwnïo ac mae wrth ei bodd yn mynd i’r theatr. 

Mae'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau yn y swydd ym mis Hydref mewn sector agos at ei chalon. 

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru: 

"Rydym yn edrych ymlaen yn arw i Lorna ymuno â thîm Cyngor Celfyddydau Cymru fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes, ac edrychwn ymlaen at weld ei hystod eang o brofiad proffesiynol a’i hangerdd dros y celfyddydau a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol wrth i ni barhau i ddatblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n gyfnod o newid yng Nghyngor y Celfyddydau a bydd profiad ac arweinyddiaeth Lorna ar lefel uwch o fudd mawr i’r sefydliad wrth i ni symud ymlaen. Croeso mawr i ti Lorna."