Cyhoeddodd Anthem, Cronfa Gerdd Cymru mai Emyr Afan OBE yw Cadeirydd newydd y Bwrdd, gan ddilyn David Alston MBE, a sefydlodd Anthem yn 2018.

Sefydlwyd Anthem yn 2018 yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn archwilio ffyrdd o gefnogi addysg gerddorol a chyfleoedd i bobl ifanc greu cerddoriaeth yng Nghymru.  David Alston MBE, cyn Gyfarwyddwr yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, a sefydlodd Anthem i gychwyn a’i arwain fel Cadeirydd hyd yr haf eleni. Fe wnaeth David helpu i sefydlu’r sefydliad ac mae wedi tyfu’r tîm ers hynny, gan ddwyn unigolion a sefydliadau at ei gilydd ar draws Cymru sydd oll yn rhannu’r un angerdd dros bobl ifanc a’u cerddoriaeth yng Nghymru.

Yn gerddor angerddol, cyn-artist recordio, a thenor â hyfforddwyd yn glasurol, mae Emyr Afan OBE yn gynhyrchydd a wobrwywyd ac yn arweinydd ar y cyfryngau yn y sector cerddoriaeth a theledu yng Nghymru. 

Mae hefyd yn Gadeirydd ar Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru. Emyr a sefydlodd y Pop Factory, y ganolfan i gerddoriaeth a’r cyfryngau yn y Porth, oedd yn darlledu’r sioe gerddorol wythnosol ar y teledu, The Pop Factory, ym mlynyddoedd cynnar degawd cyntaf y ganrif hon, a roddodd hwb cychwynnol i yrfaoedd llawer o gerddorion a chyflwynwyr teledu gan gynnwys Alex Jones, Steve Jones, Sarra Elgan a Gethin Jones.