Dydd Sul, 3 Tachwedd

BBC Four a BBC Two Cymru am 8pm

Mae 'Dance Passion Swansea' yn rhaglen BBC Four a fydd yn cael ei darlledu ar BBC Four a BBC Dau Cymru ar 3 Tachwedd 2024, a bydd yn cynnwys dawnswyr o gefndiroedd amrywiol yn perfformio yn Abertawe.

O Bier y Mwmbwls, Neuadd Brangwyn a Thŵr yr Arsyllfa, i Fae Abertawe a thwyni Penrhyn Gŵyr, perfformir pob math o ddawns – gan gynnwys bale, dawnsio neuadd, Lladin, cyfoes a chlocsio traddodiadol.

Mae William Bracewell, prif ddawnsiwr gyda'r Ballet Brenhinol, yn dychwelyd i’w filltir sgwar, Oxwich Bay, i greu gwaith newydd yn seiliedig ar ei gerdd Llythyr Adre / A Letter Home, tra bod Ballet Cymru yn rhoi gwedd Gymreig i 'Ddawns y Marchogion' o fale Prokofiev - Romeo a Juliet.

Yn dilyn rhaglen ddogfen fuddugol Bafta Cymru ‘Brothers in Dance: Anthony and Kel Matsena’, mae’r coreograffwyr o Abertawe yn cynnwys trigolion y ddinas yn eu gwaith hwy, gyda hip-hop a dawns gyfoes.

Disgrifia Joe Powell-Main ei hun fel ‘dawnsiwr llawrydd a choreograffydd sydd ar olwynion a baglau’. Daeth ei hyfforddiant i ben yn Ysgol Y Bale Brenhinol. Mae'n perfformio darn unigol sy'n ymgorffori ddawns Lladin a dawnsio neuadd, gyda'r nod o ysbrydoli unrhyw un sydd eisiau dawnsio.

Ffotograffau stiwdio cynnar yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer Black Victorians, dawns bwerus a theimladwy gan y coreograffydd Jeanefer Jean-Charles, gyda cherddoriaeth gan DJ Wade. Mae'n edrych ar presenoldeb gymhleth ond anghofiedig pobl ddu ym Mhrydain cyn y Windrush.

Mae’r ddawns olaf yn Dance Passion yn cynnwys datganiad teimladwy o Fern Hill, Dylan Thomas; Cerys Matthews sy'n ei hadrodd. Mae’r ddawns, a ddyfeisiwyd gan gyfarwyddwyr artistig Ballet Cymru, Darius James ac Amy Doughty, yn cynnwys y cerddi gyda pherfformiad atgofus sy’n diweddu ar draeth Abertawe.

Mae Dance Passion Abertawe yn gyd-gomisiwn rhwng BBC Arts a BBC Cymru Wales, gyda chefnogaeth arian cyfatebol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.