Mae Canolfan Ffilm Cymru wedi rhyddhau adroddiad yn archwilio perfformiad 14 o ffilmiau allweddol gyda chysylltiadau Cymreig a gafodd eu rhyddhau mewn sinemâu rhwng Mawrth 2021 a Mawrth 2022.
Cafodd y ffilmiau, sy'n amrywio o Prano Bailey Bond's Censor, i The Welshman gan Lindsay Walker, eu dewis fel sampl o 20 teitl hysbys, gan adlewyrchu ystod o strategaethau a meintiau rhyddhau. Manteisiodd pob teitl ar gefnogaeth strategaeth Gwnaethowyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Cymru Greadigol a'r BFI. Mae cysylltiadau Cymreig yn cynnwys lle cafodd ffilmiau eu gosod neu eu ffilmio yng Nghymru, neu eu gwneud gan neu sy'n cynnwys talent o Gymru.
Mae'r adroddiad unigryw hwn, a ysgrifennwyd gan yr ymgynghorydd dosbarthu Delphine Lievens, yn arwain ymlaen o astudiaeth gyfatebol a luniwyd gan Ganolfan Ffilm Cymru yn 2020. Mae'n amlinellu ystod o ddata allweddol gan gynnwys sut mae ffilmiau Cymru yn cael eu hariannu, cynhyrchu, marchnata a dosbarthu, ynghyd ag amrywiaeth o ystadegau amrywiaeth. Nod y gwaith yw creu meincnodau newydd fel bod modd archwilio tueddiadau sy'n dod i'r amlwg mewn ymddygiad cynulleidfa yng Nghymru yn flynyddol, gan alluogi'r diwydiant sgrin i ymateb.
Dywedodd Hana Lewis Rheolwraig Canolfan Ffilm Cymru:
“Rydym yn cymryd ysbrydoliaeth o wledydd fel Sweden lle maent yn rheolaidd yn cyhoeddi data am berfformiad eu ffilmiau brodorol ac yn defnyddio hyn i lywio cynyrchiadau yn y dyfodol yn ogystal â strategaethau dosbarthu a gwerthu. Mae diffyg data a rennir am ffilm yng Nghymru a chredwn, drwy ddatblygu'r gwaith hwn, y gallwn ddeall yn well sut mae cynulleidfaoedd yn ymateb i gynnwys ar y sgrin ac yn cwestiynu materion ynghylch tegwch, gan flaenoriaethu ffilmiau sy'n archwilio cynrychiolaeth deg. Mae hefyd yn ein galluogi i ddeall pa mor dda y mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn gweithio fel cynllun, fel y gallwn deilwra ein cefnogaeth a sicrhau bod straeon Cymreig yn cyrraedd cynulleidfaoedd."
Cymerodd y 14 teitl a adolygwyd ar gyfer yr adroddiad hwn £1.1 miliwn yn swyddfeydd tocynnau'r DU ac Iwerddon, gyda 13% o'r derbyniadau hynny yng Nghymru (cynnydd o 2% ers 2020). Roedd tri chwarter (77%) o'r ffilmiau yn uwch na'r gyfran o'r farchnad gyfartalog o 3.15% ar gyfer swyddfeydd tocynnau Cymru 2021. Mae'r adroddiad yn dangos bod ffilmiau llai wedi’u gosod yng Nghymru neu â straeon Cymreig yn boblogaidd gyda sinemâu a'u cynulleidfaoedd yng Nghymru. Mae'n amlygu ffilmiau fel Y Cymro a gafodd 100% o'i dangosiadau mewn sinemâu yng Nghymru; La Cha Cha, a gymerodd 99% o'i swyddfa docynnau o safleoedd yng Nghymru a'r Toll, a wnaeth 83% o'r swyddfeydd tocynnau yng Nghymru.
Mae Cyfarwyddwr y Cymro Lindsay Walker yn esbonio pa mor bwysig oedd cefnogaeth sinemâu a Gwnaethpwyd yng Nghymru i ryddhau'r ffilm:
"Roedd hi mor bwysig bod Y Cymro yn cael ei sgrinio mewn sinemâu lleol, roedd yn arbennig! Daeth â chymunedau at ei gilydd a rhoddodd mwy o ymdeimlad o falchder i'n hanes yng Nghymru. Roedd cael dangos y ffilm mewn sinemâu annibynnol yn ystod y pandemig yn caniatáu i sinemâu llai agor a rhoi cynulleidfaoedd yn ôl mewn seddi ac fe wnaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru ein helpu i gyflawni hynny. Mae'n anhygoel beth mae ffilm yn gallu ei wneud drwy ddod â phobl at ei gilydd."
Un o brif ganfyddiadau'r adroddiad yw, er gwaethaf ymrwymiad cynyddol i degwch a chynhwysiant yn niwydiant ffilm y DU, ni chafodd yr un o'r 14 ffilm a ddadansoddwyd eu cyfarwyddo, eu cynhyrchu na'u hysgrifennu gan bobl ddu neu leiafrif ethnig, a oedd yn ostyngiad o 4% yn 2020. Er bod cynnydd o 32% mewn cyfarwyddwyr benywaidd a chynnydd o 10% mewn cynhyrchwyr benywaidd, nid oedd yr un ohonynt yn wneuthurwyr ffilmiau nad oeddent yn wyn. Roedd cynnydd o 2% mewn credydau arweiniol ar gyfer actorion o gefndiroedd nad ydynt yn wyn (o 7% i 9.38%).
Mae Ila Mehrotra, Cyfarwyddwr y ffilm newydd Being Hijra (2023) sy'n dogfennu asiantaeth fodelu trawsryweddol gyntaf India, yn esbonio pam mae straeon gan wneuthurwyr ffilm amrywiol yn hanfodol i Gymru:
‘‘Pan gawn y cyfle i adrodd ein straeon ein hunain yna mae tocenistiaeth yn rhywbeth sydd yn perthyn i'r gorffennol, ond er mwyn cyrraedd yna mae angen i'r diwydiant ffilm roi cyfleoedd creadigol, gyda thâl teilwng sydd yn creu sefydlogrwydd ariannol a chreadigol hir dymor yn ein bywydau. Dim ond wedyn y gwelwn ni newid gwirioneddol o flaen a thu ôl i'r camera’’.
Roedd data allweddol arall yn cynnwys nad oedd ffilmiau Cymreig yn cael eu rhyddhau yn ystod y cyfnod (gostyngiad o un ffilm, Anorac, yn 2020). Rhagwelir y bydd hyn yn gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf gyda chyhoeddiad Cronfa Datblygu Sinema Cymru.
Ychwanegodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymru Greadigol:
"Mae'r math hwn o ymchwil mor bwysig gan ei fod yn helpu i roi darlun cywir o'r sector ffilm yng Nghymru ac yn ein galluogi i nodi meysydd lle mae'n rhaid i ni wneud gwell gwaith o adlewyrchu a chynrychioli ein cymunedau. Er ei bod yn galonogol gweld cynnydd yng nghynrychiolaeth cyfarwyddwyr benywaidd yn y diwydiant sgrin yn 2021/22, mae'n amlwg bod llawer i'w wneud eto i herio'r diffyg amrywiaeth a chynhwysiant ar draws Ffilm a Theledu. Mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i sbarduno newid yn y maes hwn drwy barhau i weithio mewn partneriaeth, cymorth ariannol a chefnogi cynlluniau hyfforddeion. Ein cenhadaeth yw mynd i'r afael â'r materion hyn yn uniongyrchol ac, yn eu tro, creu mwy o gyfleoedd i bobl o bob cefndir, ar bob cam o'u gyrfa yn y sgrin."
Efallai bod ffilmiau sy'n bodloni meini prawf cynhwysiant ehangach wedi'u hariannu rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021 ond heb eu rhyddhau, ac felly nid oeddent yn gymwys i'w dadansoddi yn yr adroddiad hwn. Mae Canolfan Ffilm Cymru wedi ymrwymo i ymgymryd â'r ymchwil hwn yn flynyddol, yn amodol ar gyllid, ac mae'n gweithio ar ddetholiad o deitlau gyda thalent amrywiol, gan ryddhau yn 2023.
Mae prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru yn cynnig gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn mewn partneriaeth ag arddangoswyr o Gymru, gan gynnwys catalog ffilm, sy'n cynnwys dros 700 o ffilmiau byrion a ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig. Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn bosibl diolch i gefnogaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN), gan ddyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol. Mae BFI FAN yn cynnig cymorth i arddangoswyr ledled y DU gyfan, i hybu rhaglenni diwylliannol ac ennyn diddordeb cynulleidfaoedd amrywiol. Yng Nghymru, arweinir gweithgarwch gan Ganolfan Ffilm Cymru, a reolir gan Chapter.
Gall cynulleidfaoedd gael y newyddion diweddaraf am y ffilmiau Cymreig sydd ar ddod yn adran Gwnaethpwyd yng Nghymru ar wefan Canolfan Ffilm Cymru, neu drwy ddilyn @Filmhubwales ar y cyfryngau cymdeithasol.