Cafodd canlyniadau Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru eu cyhoeddi ym Medi 2023.
Derbyniwyd 139 cais cymwys i’r Adolygiad Buddsoddi a rhoddwyd cynigion amodol i 81 sefydliad creadigol ledled Cymru. Mae’r symiau a gynigwyd yn werth £29.6 miliwn ac yn gyfuniad o’r nawdd a geir gan Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Cafwyd 15 apêl i ganlyniad yr Adolygiad Buddsoddi a chafodd pob un eu hystyried gan Adolygydd Annibynnol. Ar y cam cyntaf yma o ystyriaeth, gwrthododd yr adolygydd 14 apêl oherwydd nad oeddynt yn gymwys neu nad oeddynt yn dangos sail ddigonol dros apelio.
Roedd yr adolygydd wedi anfon apêl National Theatre Wales at y Panel Apêl annibynnol i'w hystyried yn llawn, yn unol â'n Proses Apelio sydd wedi’i chyhoeddi.
Bydd y Cyngor yn trafod ystyriaethau’r Panel Apêl yn ei gyfarfod nesaf ar 13 Rhagfyr yng nghyd-destun yr holl Adolygiad Buddsoddi.
Bydd y cynnig terfynol sy’n cael ei wneud i sefydliadau llwyddiannus yn dibynnu ar setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.
Mae cefnogaeth bontio ar gael i sefydliadau a oedd cyn hyn yn cael arian aml-flwyddyn ond a fu’n aflwyddiannus yn yr Adolygiad Buddsoddi.
Bydd pob sefydliad aflwyddiannus yn yr Adolygiad Buddsoddi yn gallu gwneud cais am grantiau eraill sydd ar gael gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Byddant hefyd yn gallu ymgeisio yn y dyfodol am arian aml-flwyddyn eto.