Ar hyn o bryd mae Karen yn Bennaeth Rheolaeth Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ond nid yw’n ddieithr i’r sector dawns ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa broffesiynol yn gweithio ym myd dawns yng Nghymru – gyda Chwmni Dawns Diversions/Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, fel Cyfarwyddwr Dawns Annibynnol Cymru, fel cynhyrchydd annibynnol ar gyfer artistiaid ar raddfa fach ac mewn addysg dawns, ysgrifennu cwricwla a gweithredu fel arholwr allanol. Roedd ei hymchwil PhD hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygiad dawns gyfoes broffesiynol yng Nghymru.

Mae nifer o ffyrdd y gall pobl fod yn rhan o'r adolygiad os ydynt yn gweithio mewn dawns neu â diddordeb mewn dawns, o gyfres o Sgyrsiau Creadigol ledled Cymru i holiadur ar-lein. E-bostiwch adolygiaddawnscymru@gmail.com am fanylion llawn.