Bydd mwy na 30,000 o weithiau celf o gasgliad Amgueddfa Cymru – yn awr ar gael i’w harchwilio ar y sgrîn yn eich cartref eich hun.

Mae Celf ar y Cyd, un o nodweddion craidd Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru, a arweinir gan Amgueddfa Cymru (mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru), yn rhoi mynediad digidol i bobl Cymru a thu hwnt i gasgliad o gelf gyfoes mewn prosiect cyntaf o’i fath, a ddatblygwyd ac a grëwyd yn dilyn ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus Cymru gyfan.

Gyda rhai gweithiau erioed wedi cael eu gweld yn cael eu harddangos yn gyhoeddus o’r blaen, mae Celf ar y Cyd yn torri tir newydd wrth wneud casgliad celf gyfoes Amgueddfa Cymru yn wirioneddol hygyrch i gynulleidfa fyd-eang. Yn dilyn prosiect digideiddio helaeth, mae’r safle i ffonau symudol yn bennaf yn cynnig mewnwelediad i artistiaid gan gynnwys Bedwyr Williams a gweithiau celf fel Clod, Clod (Het a Chyrn) Laura Ford, a gafodd ei gynhyrchu ar gyfer pafiliwn Cymru yn Biennale rhif 51 Fenis.

Dywedodd Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru, Dr Kath Davies,

“Rydym yn arwain y ffordd â’r digideiddio hwn ar raddfa fawr o gasgliad celf gyfoes a modern cenedlaethol Cymru. Dyma’r tro cyntaf i gasgliad o’r math hwn gael ei drefnu i fod ar gael i’r cyhoedd yn y ffordd hon – rhywbeth rydym yn anhygoel o falch ohono.

“Mae’r cyfleoedd i fynd i bori, dysgu a chael eich ysbrydoli gan filoedd o weithiau celf yn ddiddiwedd. Rydym oll yn llawn cyffro i fod yn rhannu’r casgliad hwn ac edrychwn ymlaen at weld faint o bobl fydd yn ymateb ac yn rhannu eu meddyliau.”

Mae’r cyhoedd o bob rhan o Gymru – ein Curaduron Cymunedol – wedi bod yn ymateb i’r gweithiau celf â’u meddyliau personol, gan ddod â stori casgliad celf gyfoes y genedl yn fyw ar dudalen Instagram Celf ar y Cyd.

Mae’r gweithiau celf a amlygwyd yn cynnwys Ysgwrn, gan Mary Lloyd Jones, a gafodd ei ysbrydoli gan a’i enwi ar ôl y fferm lle tyfodd y bardd Hedd Wyn (1887-1917) cyn iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyfarnu’r Gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar ôl iddo farw. Cyflwynodd ei deulu Yr Ysgwrn i’r genedl yn ddiweddar ar ôl byw yno am genedlaethau a rhannodd ei nith, Malo Bampton, sut y teimlai i gael ei chludo yn ôl i’w phlentyndod wrth edrych ar y gwaith celf o’i chartref yng Nghaer-wynt.

Dywedodd Bampton, “Wrth edrych ar liwiau melyn a choch y darlun, dw i’n gallu clywed clecian y tân oedd yn ganolbwynt ein cartref. Dw i’n gallu gweld nain yn coginio. Dw i’n gallu teimlo ei gynhesrwydd. Yn y lliwiau glas dw i’n gallu gweld yr afonydd a’r ffrydiau bach; mae wedi dod a chymaint yn ôl i mi.”

“Cawson ni blentyndod rhyfeddol, yn treulio amser yn Yr Ysgwrn gyda fy mrodyr ac yn clywed storïau am Ewythr Ellis. Byddem yn clywed sut roedd Ellis yn arfer mynd i fyny i’r mynydd a dim ond eistedd yno ac ysgrifennu. Byddai’n ysgrifennu ei gerdd, os oedd o’n ei hoffi, byddai’n dod â hi yn ôl i’r tŷ; os nad oedd, byddai’n ei rhoi yn y waliau cerrig. Wnaethon ni erioed ddod o hyd i un, ond roedd hi’n hwyl i chwilio.”

 

Ychwanegodd  Kath Davies,

“Mae gweithio gyda’r Curaduron Cymunedol wedi bod yn broses ysbrydoledig, sy’n arddangos cysylltiadau personol pobl â chelf.

“Naill ai’n gwylio Malo yn cael ei chludo yn ôl i’w phlentyndod wrth iddi edrych ar Ysgwrn Mary Lloyd Jones neu’n darllen ymateb creadigol i waith ar y safle, yr ymateb dynol sy’n gwneud i’r prosiect hwn ddod yn fyw. 

“Bydd Celf ar y Cyd yn agor drysau, yn rhoi mynediad i bobl at gymaint o weithiau celf na allent eu gweld fel arfer – unrhyw le, unrhyw bryd.”