Hoffech chi wybod fyddai cyllid ad-daladwy yn bwrpasol i’ch mentrau neu gynlluniau strategol chi yn y dyfodol? Oes gennych chi gwestiynau am gyllid benthyg, neu sut i ddatblygu eich adroddiadau effeithiolrwydd, neu sut i baratoi cynllun busnes am y gorau?

Pwy ydyn ni?

Yr 'Arts & Culture Impact Fund' - cronfa fuddsoddi effaith gymdeithasol. Mae’r gronfa hon werth £20 miliwn ac yn gweithredu ar gyfer sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth ledled y DU. Nodau’r gronfa yw cefnogi sefydliadau fel y gallant ddatblygu gwydnwch ariannol, ac asesu a chyfleu eu heffaith gymdeithasol yn well.

Beth ydyn ni'n ei gynnig?

  • Benthyciadau (gwarantedig a heb eu gwarantu) rhwng £150,000 ac £1 miliwn
  • Ad-daliadau hyd at 8 mlynedd
  • Telerau hyblyg, gan gynnwys gwyliau ad-dalu
  • Cyfradd llog rhwng 3% ac 8.5%
  • Tâl cwblhau 1%; ni chodir tâl i ad-dalu’n gynnar
  • Cyllid i hwyluso sawl diben e.e. creu ffrydiau incwm newydd, prynu neu adnewyddu eiddo, meithrin gallu, benthyciadau pontio a.y.y.b.
  • Cefnogaeth i lywio effaith gymdeithasol eich sefydliad
  • Ffurflen ymholiad ar-lein syml
  • Agor ar gyfer ymholiadau tan haf 2025

Dewch i gyfarfod y tîm!

Ydych chi'n gweithio yng Nghaerdydd? Bydd y tîm yno Dydd Llun, 22ain Ebrill, ac yn hapus i gyfarfod cwmniau celfyddydol sydd eisiau mwy o wybodaeth.

Os nad yw hynny’n gyfleus, neu os nad ydych chi yng Nghaerdydd, gallwn hefyd gyfarfod ar-lein pryd bynnag sydd fwyaf cyfleus i chi.

E-bostiwch ellen.hunter@artsculturefinance.org a katie.pattinson@artsculturefinance.org i drefnu cyfarfod.

Darganfod mwy:

Ewch i'n gwefan 

Archwiliwch sut mae pobol eraill wedi defnyddio ein cyllid