Mae’r Academi, sy’n cael ei rhedeg gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn chwilio am arweinwyr ifanc ar gyfer ei rhaglen saith mis sydd â’r nod o sicrhau newid cymdeithasol parhaol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn nhrydedd academi flynyddol y swyddfa yn cael y cyfle i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth llesiant Cymru, sy’n arwain y byd – yn diogelu buddiannau pobl heddiw, y rhai a gaiff eu geni yn y dyfodol, a’n planed – wrth roi ei nodau llesiant ar waith a dylanwadu ar arweinwyr a sefydliadau presennol.
Eleni, mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi rhoi £40,000 i gynorthwyo’r academi i recriwtio pobl ifanc ậ nodweddion gwarchodedig.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, am y tro cyntaf, yn cefnogi dau le i bobl sy'n gweithio yn sector y celfyddydau - sy'n cynnwys staff mewn sefydliadau celfyddydol, neu'r rhai sy'n gweithio fel artistiaid, ymarferwyr creadigol neu weithwyr llawrydd.
Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i ddod yn rhan o’r Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr – mae’r cyn-fyfyrwyr wedi siarad mewn cynadleddau hinsawdd, wedi ymuno â byrddau cynghori Llywodraeth Cymru, wedi dod yn swyddogion etholedig ac wedi cynrychioli Cymru ar Gomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol y DG.
Mae ganddynt hefyd rôl allweddol wrth gyfrannu at waith y comisiynydd, Derek Walker, a ddaeth yr ail gomisiynydd erioed ym mis Mawrth 2023 ac sy’n cyhoeddi ei gynllun saith mlynedd yr hydref hwn, ar ôl ymgynghori ledled y wlad ar y dulliau gorau o fynd i’r afael â’r materion pwysig sy’n wynebu Cymru. Ymunodd Nirushan Sudarsan ag Academi 2021-2022 ac mae bellach yn gyfarwyddydd Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange CIC a Ffair Jobs CIC – menter gymunedol sy’n cynnwys trigolion ac arweinwyr yn Butetown, Grangetown a de Caerdydd.
Dywedodd ef: "Mae’r Academi wedi bod yn gyfle gwych i gysylltu ag arweinwyr y dyfodol ledled Cymru i ddysgu a hybu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fel y genedl gyntaf yn y Byd i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, mae gennym gyfle unigryw nid yn unig i feddwl am genedlaethau’r dyfydol ond i wneud newidiadau llesol ac ymarferol yn awr fel y gallwn adeiladu gwell dyfodol i bawb.”
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Mae’r bobl ddisglair sy’n cwblhau ein Hacademi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn trosi nodau llesiant Cymru yn weithredoedd - ar gyfer Cymru lle mae pawb yn ymgyfrannu yn y dasg o adael Cymru’n lle gwell na’r un a ddarganfuwyd gennym.
“Mae’r rhai sy’n ymuno ậ’r Academi mewn sefyllfa unigryw i gydweithio fel rhan o fudiad byd-eang cenedlaethau’r dyfodol, a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau – i sicrhau’r newid brys a thrawsnewidiol sydd ei angen ar Gymru. Mae bod yn rhan o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn golygu y byddwch yn cyfrannu nid yn unig at Gymru well yn awr, ond at ddyfodol gwell i bawb.”
Ymunodd Judith Musker Turner, Rheolydd Portfolio Cyngor Celfyddydau Cymru ậ’r Academi yng ngharfan 2021-2022.
Dywedodd Judith Musker Turner, Rheolydd Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru, “Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol rydym yn falch iawn o fod yn noddi dau le ar gyfer arweinwyr celfyddydol y dyfodol ar yr Academi bwysig hon, sy’n rhoi llais i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ac sy’n datblygu sgiliau ein harweinwyr y dyfodol. Mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn allweddol i ddatrys llawer o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu fel cymdeithas, a bydd y cyfranogwyr dethol yn gallu hyrwyddo pwysigrwydd y celfyddydau i’r Ddeddf yn ogystal â defnyddio’r dysgu y maent yn ei ddatblygu drwy’r Academi i ysgogi newid yn eu sefydliadau neu eu cymunedau hwy eu hunain.”
Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu Principality: “Bydd ein cefnogaeth i’r rhaglen arweinyddiaeth yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru.
“Un o’n nodau yw helpu i greu cymdeithas decach drwy gefnogi symudedd cymdeithasol. Rydym wedi ymrwyno i Gymru a’i phobl ifanc ac yn falch o gael y cyfle hwn i helpu’r academi arweinyddiaeth a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.”
- Mae ceisiadau yn awr wedi agor. Bydd Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn creu rhestr fer o ymgeiswyr anabl, Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ac ymgeiswyr sydd yn aelodau o’r gymuned LHDT+ ar gyfer ein cyfnod cyfweld, cyn dethol y garfan derfynol.
- I wneud cais am le ar yr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, ewch I: https://forms.elevatebc.co.uk/forms/welsh-future-leader-application-x2llqg
- Y dyddiad cau yw Gorffennaf 30. I gael rhagor o wybodaeth am Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, cliciwch yma.
- Dylai ymgeiswyr o sector y celfyddydau sy’n dymuno ymgeisio am le wedi ei noddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru ymgeisio drwy’r recriwtio agored uchod.
- Mae nawdd sefydliadau yn awr wedi ei lenwi ar gyfer rhaglen eleni. Mae noddwyr yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Trafnidiaeth Cymru.
- Bydd angen i gyfranogwyr gyfrannu oddeutu pedair awr y mis, yn ychwanegol at ddwy daith breswyl dau ddiwrnod yr un (ym mis Medi a Rhagfyr) a diwrnod graddio ym mis Mawrth 2024.
- Cefnogir y rhaglen eleni gan yr ymgynghorwyr busnes, Elevate BC Ltd, sy’n seiliedig yng Nghymru.