Mae arddangosfa unigol gyntaf yr artist, awdur a gwneuthurwr ffilm, Abi Palmer, yn creu realiti amgen lle mae gwlithod, yn hytrach na chael eu trin â ffieidd-dod, yn cael eu parchu, a gallwch addoli wrth yr allor lysnafeddog yma yn Oriel Chapter o nawr tan 6 Hydref 2024. 

Yn Slime Mother, mae Abi’n gwahodd gwylwyr i ymdrochi mewn byd lle mae llysnafedd, cwiardeb, gwleidyddiaeth y gofod, yr erotig, ac arferion paru estroniaid yn rhyngblethu, gan eu hannog nhw i ymuno a chofleidio rhyfeddod cain y gastropodau gwydn yma.

Drwy gydol ei harfer amlweddog, mae Abi’n defnyddio amrywiadau ei chorff anabl fel sbardun, gan greu gwaith sydd nid yn unig yn amlsynhwyraidd ac yn doredig, ond sydd hefyd yn gwbl Gwiar. I gyd-fynd â’r arddangosfa bydd Slugs: a Manifesto, sef cyhoeddiad newydd gan Abi a gyhoeddwyd gan Makina Books mewn cydweithrediad â Chapter, a bydd yn ymestyn ar draws rhaglen o ffilmiau, gweithdai, teithiau Iaith Arwyddion Prydain a mwy.

Meddai Abi Palmer: “Dw i’n uniaethu gyda'r wlithen: Dw innau hefyd wedi cael fy ystyried gyda ffieidd-dod, yn ddim gwell na’r pla sy’n dwyn ysbail gan y ffermwr diwyd. Unwaith y bydda i’n rhoi lle i fy hunan i symud i ffwrdd o’r ffieidd-dod a’r ffobia dwfn, dw i’n canfod lle ar gyfer harddwch, diddordeb, a hyd yn oed parch sgleiniog tuag at greadur a ddaeth yn fwy ffiaidd fel ffordd o oroesi”.

Meddai’r Curadur Sim Panaser: “Mae arddangosfa amlweddog Abi yn cyflwyno cosmoleg wlithaidd sy’n canoli cymunedau wedi’u hymyleiddio. Wrth groesawu meddalwch, gwydnwch a chadernid y creaduriaid llysnafeddog yma, mae Abi’n cynnig posibiliadau trawsnewidiol i ni ailystyried y ffyrdd rydyn ni’n meithrin cymuned ac yn cysylltu.” Rydyn ni am groesawu cymaint o bobl â phosib i’r arddangosfa, felly ar 19 a 20 Gorffennaf, rydyn ni’n cynnig tair ffordd o ymuno a dathlu gyda’r artist.

Sinema Slime Mother 

O glasuron cwlt i ffilmiau diweddar, mae’r detholiad yma o ffilmiau – a ddewiswyd mewn cydweithrediad âg Abi Palmer – sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd.

Mae’r holl docynnau ar gyfer cyfres Sinema Slime Mother ar gael am bris gostyngol, sef £5 + ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5.

Dydd Sadwrn 17 Awst 2024, 2:30yh - The Creeping Garden 

Dydd Sadwrn 24 Awst 2024, 2:30yh - I Didn't See You There 

Dydd Sadwrn 31 Awst 2024, 2:30yh - Funghi: Web of Life 

Dydd Sadwrn 14 Medi 2024, 2:30yh - Is There Anybody Out There?

Dydd Sadwrn 21 Medi 2024, 2:30yh - Phase IV

Dydd Sadwrn 28 Medi 2024, 2:30yh - Starship Troopers

Deaf Gathering: Taith Iaith Arwyddion Prydain o arddangosfa Abi Palmer: Slime Mother

Bydd Emily Rose ac Alex Miller o Our Visual World yn arwain dwy daith Iaith Arwyddion Prydain o gwmpas ein harddangosfa gelf ac yn mynd â chi i fyd llawn llysnafedd! Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar y sgrin ar gael ar gyfer y ffilm, sy’n chwarae bob 15, 30, a 45 munud wedi’r awr (mae’n para 7 munud i gyd). Mae disgrifiadau sain i’r ffilm hefyd ar yr awr, bob awr. Mae mynediad am ddim, ond mae’n rhaid archebu o flaen llaw.

Gweithdy Celf: Arddangosfa Slime Mother Abi Palmer

Bydd Alex Miller yn cynnal gweithdy celf am ddim lle bydd gennych gyfle i greu rhywbeth sydd wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Abi, sy’n cynnwys ffilm, cerflunwaith, a disgo gwlithaidd!

Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar y sgrin ar gael ar gyfer y ffilm, sy’n chwarae bob 15, 30, a 45 munud wedi’r awr (mae’n para 7 munud i gyd). Mae disgrifiadau sain i’r ffilm hefyd ar yr awr, bob awr.

Galwch heibio i weld yr arddangosfa, yna baeddwch eich dwylo gyda chrefftau gwlithaidd!

Cefnogir yr arddangosfa yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Henry Moore.

Ffotograff: Dan Weill 2024